RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Newport, Newport, NP18 2BZ
Gwybodaeth Penwythnos Binocwlars a Thelesgop yng Ngwlyptiroedd Casnewydd RSPB
Ydych chi’n meddwl am brynu pâr o finocwlars neu delesgop?
Dewch i ymweld â ni y penwythnos hwn i siarad â'n harbenigwyr, a all ddangos i chi sut i ddefnyddio pob pâr ac ateb eich holl gwestiynau. Bydd gennym yr ystod gyfan wedi'i gosod yn Ystafell Lakeside, fel y gallwch roi cynnig ar gymaint o barau ag y dymunwch, a chymryd eich amser yn dod i arfer ag edrych trwyddynt.
Cyn prynu binocwlars, mae'n werth ystyried y tri pheth canlynol:
1. Faint hoffech ei wario? Gall pâr da o finocwlars gostio cyn lleied â £70, ond gallant hefyd fod mor ddrud â £3,000, felly mae'n fan cychwyn da i feddwl am gyllideb.
2. Ar gyfer beth fyddwch chi'n defnyddio'ch binocwlars? Mae binocwlars o bob lliw a llun, er enghraifft, mae rhai yn drymach nag eraill oherwydd eu chwyddiad uwch, mae rhai wedi'u hadeiladu'n arbennig ar gyfer amodau golau isel, ac mae rhai wedi'u cynllunio i ffitio'n glyd yn eich cês. Po fwyaf y gallwch ei ddweud wrthym am sut y byddwch chi'n defnyddio'ch binocwlars, y gorau yw'r argymhellion y gallwn eu rhoi i chi!
3. Ydyn nhw'n gyfforddus? Y cwestiwn pwysicaf y bydd angen i chi ei ofyn i’ch hun - gall binocwlars anghyfforddus ddifetha eich profiad adara! Dyma rywbeth y gallwch ei wybod dim ond pan fydd gennych y pâr yn eich dwylo, felly mae'n hanfodol rhoi cynnig cyn prynu. Mae ein holl finocwlars wedi'u cynllunio i'w defnyddio gyda neu heb sbectol, tra bod gan ein casgliad brand o Swarovski rai nodweddion cysur ychwanegol na fyddwch chi'n dod o hyd iddynt rywle arall.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os na allwch ddod ar y penwythnos ac os hoffech drefnu amser penodol gydag aelod o'n tîm arbenigol, ffoniwch ni ar 01633 636363, neu e-bostiwch newport-wetlands@rspb.org.uk, a byddwn yn hapus i helpu.
Gwefan https://events.rspb.org.uk/events/61469