Teulu

S K A T E yn ICC Cymru

ICC Wales, The Coldra, Newport, NP18 1DE

Dydd Sadwrn 14th Rhagfyr 11:00 - Dydd Sadwrn 4th Ionawr 20:00

Gwybodaeth S K A T E yn ICC Cymru


Byddwch barod i sglefrio’r Nadolig hwn a mwynhau hwyl yr ŵyl gydag ICC Cymru. Mae ein llawr sglefrio Glice synthetig dan do yn dychwelyd yn fwy ac yn well ar gyfer 2024, ac mae'n weithgaredd perffaith i'r teulu cyfan!

Llithrwch ar draws yr iâ synthetig llyfn gyda golygfeydd a synau'r Nadolig, wrth i chi deithio trwy dwneli golau gydag 'eira' yn syrthio. P'un ag ydych chi'n sglefriwr profiadol neu'n ddechreuwr, mae hwn yn brofiad na fyddwch chi eisiau ei golli!

Ar ôl creu chwant bwyd, mwynhewch fwyd a diod yn y stondinau Nadoligaidd. O fwyd stryd arbennig i wydraid neu ddau, mae gennym rywbeth i bawb i greu atgofion hudolus y Nadolig hwn. Chwilio am yr anrheg perffaith? Does dim angen i chi edrych ymhellach na'n stondinau anrhegion Nadolig. Gydag amrywiaeth eang o eitemau unigryw a Nadoligaidd, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i bawb ar eich rhestr.

Gwefan https://www.iccwales.com/whats-on/skate-at-icc-wales/

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Teulu Digwyddiadau

Cosy Cinema, Chartist Tower, Upper Dock Street, Newport, NP20 1DW

Dydd Mercher 23rd Hydref 10:57 -
Dydd Llun 4th Tachwedd 10:57

The Regional Pool & Tennis Centre, Newport Live,, Newport, NP19 4RA

Dydd Sadwrn 26th Hydref 9:00 -
Dydd Sul 3rd Tachwedd 20:00