Newport Bus Station, Friars Walk Shopping Centre, John Frost Square, Newport, NP20 1EA
Dydd Sadwrn 9th Mai 10:00 - 13:30
Gwybodaeth Taith Gerdded Rheilffordd 200 o amgylch Pilgwenlli
Ymunwch ag aelodau o Gymdeithas Rheilffyrdd Sir Fynwy a thîm Pont Gludo Casnewydd am daith ddiddorol i weld gorffennol rheilffordd Casnewydd!
Dyma Rheilffordd 200, taith gerdded dywys sy'n olrhain rhwydwaith rheilffyrdd hanesyddol Casnewydd yng nghanol y ddinas a Philgwenlli.
Gan ddechrau ar lan Afon Wysg yng nghanol y ddinas, rydyn ni’n olrhain hen lwybr tramffordd Sirhywi a ddatblygodd i fod yn Cardiff Road, Kingsway, a George Street, cyn archwilio'r ddrysfa o linellau yn ardal Dock Street / Commercial Road. Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn derbyn lluniau a mapiau sy'n dogfennu'r gwahanol leoliadau y byddwn ni’n ymweld â nhw.
Bydd y daith gerdded yn dechrau o Orsaf Fysiau Casnewydd ac mae’n tua 2 filltir o hyd, yn hollol wastad ac yn cael ei cherdded yn araf, gyda seibiannau rheolaidd i esbonio seilwaith rheilffordd pob lleoliad yn y gorffennol.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Hanes Digwyddiadau
Newport Bus Station, Friars Walk Shopping Centre, John Frost Square, Newport, NP20 1EA
Dydd Sadwrn 9th Mai 10:00 - 13:30