Am ddim

Sioeau Planetariwm Dros Dro

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Mercher 19th Awst 10:00 - Dydd Iau 20th Awst 15:30

Gwybodaeth Sioeau Planetariwm Dros Dro


Ymunwch â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd i gael profiad planetariwm 360° dros dro am ddim yr haf hwn. Gallwch deithio’n ôl mewn amser gyda deinosoriaid, archwilio systemau hinsawdd y Ddaear, darganfod sut mae seryddwyr yn ymchwilio i'r Bydysawd, neu fwynhau taith dywys o wybren y nos.
Dim ond 10 o bobl ymhob sioe ar sail y cyntaf i’r felin ar y diwrnod. Bydd 4 sioe yn rhedeg un ar ôl y llall ar 19 a 20 Awst.

Mae pob ffilm yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol. Nodwch fod rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn a bydd ymwelwyr yn eistedd ar y llawr o dan gromen y planetariwm. Yn anffodus, nid yw'r planetariwm yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd isdeitlau yn y sioeau ar ddydd Mercher am 1.30pm a dydd Iau am 10am.

Cyflwynir y sesiynau hyn gan Immersive Experiences a'u hariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), a gefnogir gan Lywodraeth y DU ac a weinyddir gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Am fwy o fanylion, ewch i wefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

Gwefan https://www.newport.gov.uk/heritage/en/

Mwy Am ddim Digwyddiadau

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Mercher 22nd Gorffennaf 11:00 - 15:00

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA

Dydd Mercher 29th Gorffennaf 11:00 - 15:00