ICC Wales, The Coldra, Newport, Newport, NP18 1HQ
Gwybodaeth Paul Weller
Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod yr eicon cerddorol Paul Weller yn perfformio yn ICC Cymru ar 6 Ebrill 2024 fel rhan o'i Daith o’r DU 2024.
Yn ymestyn dros bum degawd, mae Paul Weller wedi bod yn ysbrydoliaeth gerddorol ac yn arloeswr steil i genedlaethau o ffans.
Fel prif leisydd The Jam, arweiniodd yr adfywiad Mod ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, gan sgorio cyfres o hits cyn ffurfio The Style Council ac yna cychwyn ar yrfa solo ddisglair.
Yn 2022, rhyddhawyd casgliad Will of the People Weller, cymysgedd o ganeuon prin na chafodd eu cynnwys ar albwm ac amrywiaeth o B-ochrau, ailgymysgiadau a recordiadau byw, i ddilyn ei 17eg albwm solo syfrdanol, An Orchestrated Songbook.
Wedi'i recordio gyda'r trefnydd clodwiw Jules Buckley a Cherddorfa Symffoni'r BBC, ail-greodd yr albwm ei gatalog helaeth gan gynnwys clasuron fel English Rose, Broken Stones, You're the Best Thing, Wild Wood a You Do Something to Me.
Dilynodd y record yma Fat Pop: Volume 1 a ganmolwyd gan y beirniaid – ei ail albwm Rhif Un mewn 12 mis – a ddaeth ei hun yn dynn ar sodlau On Sunset o 2020, a gyrhaeddodd frig y siartiau hefyd.
Mae sioeau byw Weller yn parhau i fod yn sioeau chwedlonol, gan gymysgu ei frand di-stop o roc llawn adrenalin ag eiliadau acwstig hardd.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 2nd Hydref 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Le Pub, 14 High Street, Newport County, Newport, NP20 1FW
Dydd Gwener 11th Hydref 19:30 - 22:30