Le Pub, 14 High Street, Newport County , Newport, NP20 1FW
Dydd Gwener 15th Tachwedd 19:30 - 22:30
Gwybodaeth Meltheads / The Pleasures / The Brass Bambees
Mae Meltheads yn chwarae yn Le Pub Nos Wener 15 Tachwedd!
Yn hannu o Antwerp, mae Meltheads wedi dod i'r amlwg o'r
cysgodion yn sydyn i hawlio safle nodedig yn gerddoriaeth Gwlad Belg. Mae eu
halbwm gyntaf, "Decent Sex," wedi ennyn clod nid yn unig adref ond mae hefyd yn
dechrau denu sylw ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae'r profiad gwefreiddiol o weld Meltheads yn fyw yn rhywbeth y mae cefnogwyr
sy’n gyfarwydd â'u perfformiadau yn edrych ymlaen yn eiddgar ar ei gyfer. Yn dilyn eu
sioe rhyddhau’r albwm yn Trix, rhybuddiodd HUMO yn addas iawn, "Mae Meltheads yn rhoi adenydd i chi, ond
byddwch yn ofalus, mi ewch yn gaeth iddo." Mae'r teimlad hwn yn tanlinellu gallu'r band i swyno
cynulleidfaoedd gyda'u presenoldeb llwyfan deinamig a'u hegni heintus.
Yn ymuno â Meltheads mae The Pleasures!
Mae The Pleasures yn fodd i Caethan Tucker (llais), Blake Meredith (gitâr), Lewis Derrick (gitâr fas) a Corey Wallace (drymiau) sianelu'r egni, yr hapusrwydd a'r brwydrau beunyddiol sy'n dod yn sgil bod yn bedwar boi yn eu 20au hwyr sy’n hannu o un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y de. Mynegir y fersiwn orau ohonyn nhw yn eu perfformiadau byw felly ewch i gael cip.
Hefyd yn ymuno â Meltheads mae The Brass Bambees!
Band pync 5 offeryn o Ferthyr Tudful yw The Brass Bambees. Wedi'u hysbrydoli'n drwm gan roc amgen/indie, mae sain y band wedi'i angori gan gitarau sy’n rhuo, a chyflwyniad lleisiol ymwthiol sy'n cadw cynulleidfaoedd i symud.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 2nd Hydref 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Le Pub, 14 High Street, Newport County, Newport, NP20 1FW
Dydd Gwener 11th Hydref 19:30 - 22:30