Le Pub, 14 High Street, Newport County , Newport, NP20 1FW
Dydd Mercher 20th Tachwedd 19:30 - 22:30
Gwybodaeth Funke & The Two-Tone Baby X Samantics ar y Cyd
Am y tro cyntaf bydd Funke and the Two Tone Baby a Samantics yn ymuno â'i gilydd ac
yn mynd allan ar daith ddwbl yn y DU gan berfformio ar 20 o ddyddiadau!
Ym mis Tachwedd '23, gwahoddwyd Samantics i ymuno â Funke fel gwestai arbennig yn sioe Bryste ar ei daith albwm.
Roedd allbwn gerddorol, ethos a sylfaen cefnogwyr y lŵpwyr yn ategu ei gilydd mor dda nes i Samantics gael eu gwahodd i wneud yr un peth mewn tair sioe ar daith wanwyn Funke yn gynharach eleni.
Unwaith eto, daeth y sioeau ynghyd yn wych mewn ffordd mor unigryw nes bod y ddau yn cytuno y dylai mwy o'u cefnogwyr gael profiad o baru talent gerddorol mor berffaith.
Ac felly, ganed y KAOSS TOUR '24...
Dwy ochr i'r un geiniog? Yn anhrefnus ac yn gathartig i raddau gwahanol. Yn llachar
ac yn egnïol. Anniddig ac esoterig. Mae'r ddwy act yn aml yn cael eu cymharu â’i
gilydd, ond maen nhw'n hollol wahanol o ran arddull a pherfformiad cerddorol.
Yn bendant, mae'r ddau artist yn defnyddio pad Kaoss, ond yn palu’n ddyfnach i ddod o hyd i'w
set o samplau, eu gorsafoedd lŵpio, eu sbardunau a’u sŵn gitarau eu hunain sy’n eu galluogi nhw ill dau
i gynnig sioe newydd ac unigryw.
Funke yn dod o gyfeiriad y curiadau, y bas a'r ongl gerddoriaeth ddawns a, Samantics; â ffocws mwy telynegol, tynnu-ar-y-galon, hamddenol. Mae'r ddwy sioe yn hollol wych yn eu ffordd eu hunain.
Mae Funke aand the Two-Tone Baby a'r Samantics wir wedi ennill eu streipiau gigio
gyda hanes gigio cyfun o dros 22 mlynedd. Mae'r ddau wedi teithio’r Deyrnas Unedig
a thu hwnt gan ymddangos yn y gwyliau gorau un, megis: Glastonbury, Boomtown, Beautiful Days, Bearded Theory, Nozstock, Ynys Wyth a llawer mwy!
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 2nd Hydref 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Mercher 16th Hydref 19:30 - 22:00