Le Pub, 14 High Street, Newport County, Newport, NP20 1FW
Dydd Sadwrn 12th Hydref 19:30 - 22:30
Gwybodaeth Gig Codi Arian Dactyl Terra / Kurios Oranj - No Comply
Gig Codi Arian Parc Sglefrio No Comply - 12 Hydref
Yn gweld golau dydd ar ôl trwmgwsg yng nghrombil creigiau hynafol cymoedd De Cymru, mae rocwyr space-groove arbrofol a seicedelig Dactyl Terra yn cynnig boogaloo pelydrau laser ar gyfer bodau’r ddaear a’r nen. Gyda rhythm gwefreiddiol, synths gofodaidd heintus ac alawon cosmig, mae Dactyl Terra yn ein gwahodd i syrffio tswnami drwy’r sêr!
Yn hanu o Gaerdydd, Cymru, mae Kurios Oranj yn driawd roc a rôl yn eu harddegau. Wedi'i recordio gyda'r cynhyrchydd profiadol Frank Naughton yn ei Stiwdio Tŷ Drwg yn Grangetown Caerdydd, mae EP cyntaf y band, Freshly Squeezed, yn mudlosgi’n ingol gyda dwyster diflino, gan uno ysgrifennu beiddgar gyda sain hudolus roc indie glasurol i greu scuzz pop breakneck eu hunain.
Mae Kurios Oranj wedi bod ar lwyfannau ledled eu mamwlad – gan gynnwys Gŵyl Dyn Gwyrdd enwog Cymru – a'r Iseldiroedd, gan ennill cymeradwyaeth am eu pŵer gwyrdroëdig a'u sŵn bachog. Bydd traciau a gigs newydd ledled y DU (a thu hwnt) yn cael eu cyhoeddi’n fuan- Michael Krugman
Mae tocynnau ar werth nawr; Cefnogwch yr achos gwych hwn a fydd o fudd i lawer!
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 2nd Hydref 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Le Pub, 14 High Street, Newport County, Newport, NP20 1FW
Dydd Gwener 11th Hydref 19:30 - 22:30