Newport Transporter Bridge visitor centre (Mill Parade Car Park), Mill Parade Pillgwenlly NP20 2JS, Pillgwenlly, Newport, NP20 2JS
Gwybodaeth Croesi'r Dŵr o'r Bont i’r Ffraid: Ffraid a thirwedd Chwefror
Mae ein rhaglen 'Teithiau Pont' poblogaidd yn parhau gyda chrwydr gaeafol tua'r gorllewin ar hyd Aber Afon Hafren – gan ddechrau wrth un groesfan ddŵr eiconig i ddarganfod gwreiddiau un arall!
Mae’r adeg hon o'r flwyddyn yn dymor San Ffraid, a’r arwyddion cyntaf y gall y gaeaf fod yn dirwyn i ben cyn bo hir...
Ar y daith gerdded hon o ryw 5 milltir gyda’r storïwraig o Went, Christine Watkins, byddwn yn clywed straeon paganaidd, Cristnogol a gwerin traddodiadol am yr adeg ‘rhwng tymhorau’ yma a'r sant sydd â chysylltiadau mor gryf â'n hafonydd a'n glannau.
Byddwn yn cerdded o’r Bont Gludo Casnewydd eiconig i'r morglawdd, yna i'r gorllewin am Lansanffraid Gwynllŵg lle bydd diod gynnes yn disgwyl amdanom a byddwn yn gorffen gyda seremoni i oleuo canhwyllau traddodiadol cyn dychwelyd ar fws mini i'r Bont Gludo.
RHAID CADW LLE: Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogir rhoddion bob amser ar gyfer ein prosiect Pont!
Cwrdd ym maes parcio Mill Parade gyferbyn â safle adeiladu Canolfan Ymwelwyr y Bont Gludo. Mae parcio am ddim ar y strydoedd o amgylch y Maes Parcio.
Mwy Hanes Digwyddiadau
Tredegar House, Pencarn Way, Newport, NP10 8YW
Dydd Iau 4th Rhagfyr 16:00 -
Dydd Llun 8th Rhagfyr 14:45
Newport Transporter Bridge Visitor Centre , Usk Way, Newport, NP20 2JG
Dydd Iau 18th Rhagfyr 10:00 - 15:00