Cerddoriaeth

Buddy Holly a'r Cricketers

The Riverfront Theatre and Arts Centre, Kingsway, Newport, Newport, NP20 1HG

Gwybodaeth Buddy Holly a'r Cricketers

32 Mlynedd o Roc a Rôl o amgylch y Byd!

Mae'r sioe wefreiddiol hon wedi cael cynulleidfaoedd yn rocio ledled y byd o Gaerdydd i Galifornia, Barking i Bangkok a Swindon i Sweden ac mae'n sicr o gael pawb yn cydganu i’r gerddoriaeth ac yn dawnsio yn yr eiliau.

Mae'n cynnwys rhai o actor-gerddorion gorau y DU y mae eu credydau cyfunol yn y West End yn cynnwys Buddy, Lennon, Forbidden Planet a Jailhouse Rock ac fe'i cymeradwywyd fel act Buddy Holly mwyaf poblogaidd Prydain pan oedd y bechgyn yn westeion ar raglen fyw BBC Un ar nos Sadwrn, "The One and Only", gyda Graham Norton.

Prin iawn yw’r seibiannau yn y sioe ac yn syml, dyma'r cyngerdd mwyaf cymhellol o'i fath. Mae'r goreuon yn ddi-baid - That'll Be The Day, Peggy Sue, Heartbeat, It Doesn't Matter Anymore, Raining In My Heart, Oh Boy! – a llawer, llawer mwy.

Beth bynnag fo'r tymor, beth bynnag fo’r esgus am barti, gwnewch i'ch calon guro’n gyflymach gyda'r sioe sydd â miloedd o gefnogwyr ledled y byd yn dweud: "Alla i ddim credu nad Buddy yw e!"

Gwefan https://www.newportlive.co.uk/en/theatre-arts/book-now/

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau

The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, Newport, NP20 4AL

Dydd Gwener 2nd Awst 11:00 - 13:00

Young Peoples Jam

Cerddoriaeth

The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, Newport, NP20 4AL

Dydd Gwener 2nd Awst 14:00 - 16:00