Mill Parade Car Park, Mill Parade, Newport, Newport, Gwent
Gwybodaeth Pont i'r Môr - Taith Gerdded yr Haf Morwyr Casnewydd
Mae’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd, felly ymunwch â ni i ddathlu arwyr ac arwresau Morwrol Casnewydd gyda theithwyr cudd yr Antarctig, achubwyr arwrol, menywod arloesol a thorpidos digyfeiriad hyd yn oed - darganfyddwch eu hanesion!
Yng nghwmni'r hanesydd a'r awdur lleol Andrew Hemmings, byddwch yn ymuno â Thîm Pont Gludo Casnewydd ar ein taith boblogaidd yn archwilio Casnewydd o amgylch y Bont, gan ddatgelu hanesion rhyfeddol 13 o bobl allweddol a digwyddiadau diddorol...
Gan ddilyn ôl troed canrif o forwyr di-ri, byddwn yn cychwyn ar ein taith ddarganfod ger Dociau Casnewydd, cyn mentro ar daith gylchol 5 milltir yn ymweld â chwe lleoliad.
Bydd cyfle hefyd i brynu copïau o lyfr Andrew: 'Secret Newport' - anrheg ddelfrydol.
Mae croeso i gŵn ar y daith hon felly os ydych chi'n bwriadu dod â’ch ci, cysylltwch â ni'n uniongyrchol: Gavin.Jones2@newport.gov.uk
Rydym yn awgrymu parcio ym maes parcio Mill Parade neu’r cyffiniau.
Mwy Hanes Digwyddiadau
Newport Bus Station, Friars Walk Shopping Centre, John Frost Square, Newport, NP20 1EA
Dydd Sadwrn 9th Mai 10:00 - 13:30
Newport Bus Station, Friars Walk Shopping Centre, John Frost Square, Newport, NP20 1EA
Dydd Sadwrn 9th Mai 10:00 - 13:30