Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Gwybodaeth Araith yr Artist: Negative Welsh Artist
Ymunwch â ni am sgwrs am ddim gyda’r artist o Gymru, Bedwyr Williams. Mae'r sgwrs 'Negative Welsh Artist' yn canolbwyntio ar waith Williams rhwng 2000 a 2024.
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, ac mae angen cadw’ch lle. Mae'r drysau'n agor o 6.45pm tan 7.15pm yn unig.
Mae Bedwyr Williams (g. 1974 yn Llanelwy, Cymru) yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon, Cymru. Astudiodd yng Ngholeg Celf a Dylunio Central Saint Martin’s, Llundain, ac Ateliers Arnhem, Yr Iseldiroedd. Enillodd Wobr Paul Hamlyn yn 2005, cynrychiolodd Gymru yn Biennale Fenis 2013 ac enillodd Wobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams mewn cydweithrediad ag Artes Mundi 7 yn 2017. Mae wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda chyflwyniadau unigol yn y Barbican, Llundain yn 2016; Oriel Gelf Whitworth, Manceinion; y Ganolfan Weledol ar gyfer Celf Gyfoes, Carlow, Iwerddon; a Vestjyllands Kunstpavillon, Denmarc (i gyd yn 2015); Tramway, Glasgow yn 2014; ac Oriel Ikon, Birmingham yn 2012.
Mae'r sgwrs yn cyd-fynd â ffilm Bedwyr Williams, Tyrrau Mawr, sydd i'w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd tan 18 Ionawr 2025.
Cefnogir gan CELF: Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.