
3rd Floor Youth and Play, Info Station, Queensway, Newport, NP204AX
Gwybodaeth Youth Takeover: podcasting, esports, up-cycling and more: 14+
Yr Ifanc Piau Hi: podledu, e-chwaraeon, uwchgylchu a mwy: 14+
Ydych chi’n 14 oed neu’n hŷn? Chwilio am ddiwrnod o hwyl gyda ffrindiau? Mae’r digwyddiad perffaith gennym i chi!
Ymunwch â ni ar gyfer Yr Ifanc Piau Hi, wedi’i gyflwyno gan Wasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd! Bydd y diwrnod llawn bwrlwm hwn yn cynnig llwyth o weithgareddau cyffrous wedi'u cynllunio ar gyfer pobl ifanc 14+ oed.
Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn cael ei gynnal DDYDD GWENER 28 CHWEFROR o 10am tan 4pm yn yr Orsaf Wybodaeth, Queensway NP20 4AX.
Mae diwrnod gwych gennym wedi'i gynllunio gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:
Brwydrau e-chwaraeon gwefreiddiol gydag Esports Wales: Profwch eich sgiliau yn erbyn gêmwyr eraill!
Podledu creadigol: Dysgwch yr hanfodion ac ewch ati i greu eich podlediad eich hun!
Heriau saethyddiaeth: Anelwch a tharwch ganol y nod!
Gwneud sleim: Trochwch eich dwylo a byddwch yn greadigol gyda sleim!
Sgiliau Syrcas: Dysgwch driciau anhygoel a synnwch eich ffrindiau!
Creu gyda Lego: Rhyddhewch yr adeiladwr ynoch i greu campweithiau dychmygus!
Rhyfeddodau uwchgylchu: Darganfyddwch y grefft o drawsnewid hen eitemau’n bethau newydd!
Crefftau ymarferol: Rhowch eich creadigrwydd ar waith i greu rhywbeth unigryw!
A llawer mwy! Mae hwn yn gyfle anhygoel i bobl ifanc roi cynnig ar ddiddordebau newydd, cysylltu â phobl ifanc eraill, a chael hwyl!
Mwy Am ddim Digwyddiadau
Am ddim
Dydd Llun 31st Mawrth 10:00 -
Dydd Llun 28th Ebrill 10:00
Am ddim
Dydd Llun 7th Ebrill 10:00 -
Dydd Llun 5th Mai 10:00