International Convention Centre Wales, Coldra Wood, Newport, NP18 1HQ
Dydd Gwener 15th Mai 8:30 - Dydd Mercher 20th Mai 23:00
Gwybodaeth Cyngres ac Expo Worldchefs 2026
Rhwng 16 ac 19 Mai 2026, bydd Casnewydd, Cymru yn cynnal Cyngres ac Expo Worldchefs, digwyddiad a dathliad byd-eang a gynhelir bob dwy flynedd, a fydd yn llywio dyfodol bwyd. Am y tro cyntaf yn ei hanes 98 mlynedd, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig, gan wneud hwn yn foment nodedig i Gymru.
Bydd Cyngres Worldchefs yn dod â channoedd o gogyddion, arweinwyr lletygarwch, gweithwyr proffesiynol, addysgwyr a selogion bwyd o bedwar ban byd at ei gilydd. Bydd y rhaglen bedwar diwrnod gyffrous yn cynnwys sesiynau mewnweledol dan arweiniad arbenigwyr o’r diwydiant, cogyddion â sêr Michelin a siaradwyr enwog a fydd yn archwilio'r tueddiadau diweddaraf, yn cynnig arddangosiadau, ac yn rhannu eu gwybodaeth. Y tu hwnt i'r cynadleddau, bydd llawer mwy i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd ei brofi:
Her Cogyddion Byd-eang: Ewch i wylio’r Her Cogyddion Byd-eang, lle bydd y cogyddion gorau o bob cwr o'r byd yn cystadlu ar draws pedwar categori cystadleuaeth. Ymunwch â ni i brofi'r dechneg, yr arloesedd a’r fanwl gywirdeb wrth i gystadleuwyr rhyngwladol frwydro am deitl pencampwr y byd.
Expo o'r Radd Flaenaf: Yn y neuadd expo, archwiliwch sioe fasnach fywiog yn cynnwys dros 200 o arddangoswyr a fydd yn arddangos offer, cynhyrchion a thechnolegau newydd arloesol sy'n trawsnewid y diwydiannau bwyd a lletygarwch. Crwydrwch o gwmpas y neuaddau expo a gadael gyda syniadau ac ysbrydoliaeth newydd. Ar agor i'r cyhoedd.
Mwy Bwyd a Diod Digwyddiadau
, Unit 16A, Maesglas Industrial Estate, Newport, NP20 2NN
Dydd Mercher 3rd Mehefin 14:00 -
Dydd Mercher 20th Mai 15:00
Bwyd a Diod
The Holiday Inn, The Coldra, Newport, NP18 2YG
Dydd Mercher 10th Mehefin 12:00 - 16:00