
Le Pub, High Street, Newport, Newport, NP20 1FW
Gwybodaeth Wonk Unit / The Pleasures / System Reset
Mae Wonk Unit yn fand o Croydon, sy'n adnabyddus am eu dehongliad unigryw o roc pync, eu hethos personol hynod ragweithiol a'u crysau T cwlt.
Mae'r band bellach ar eu 9fed albwm. Curaduron eu gŵyl eu hunain, Wonkfest - pencampwyr diamheuol y DU dan ddaear.
"Dechreuodd y Wonk fywyd ym 1992 pan wnes i ffurfio band o'r enw The Flying Medallions. Roedden ni'n ifanc ac yn ddwl iawn. Gwnaethon ni gofleidio anhrefn a dadlau. Roedd pync yn farw yn y DU ar y pryd. Roedden ni’n hynod o ffres ac yn dal llygad y cyfryngau prif ffrwd a hyrwyddodd ein drwg-enwogrwydd (yn yr un modd â Gallows a Slaves) nes i ni grasio ar daith ym 1995.
Yn anffodus, fe gollon ni ein chwaraewr bas Dougie Palompo. Es i’n sobr ym 1999 a ffurfiwyd Wonk tua 2005. Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw gerddoriaeth ers tro, roedd popeth yn teimlo mor hen a segur, wedi hen farw, yn enwedig pync. Rywsut, ffeindiais fy hun mewn ystafell ymarfer gyda 2 gerddor hynod dalentog, y drymiwr Mez Clough a'r gitarydd Gavin Kinch. Cododd eu chwarae fy nghaneuon.
Yn sydyn roedd popeth yn swnio'n hollol ffres. Mae Wonk Unit wastad wedi bod amdanaf "i". Fy nghaneuon yw fy nyddiadur. Rwy'n creu cerddoriaeth i fi fy hun, yn union fel rwy’n sglefrfyrddio i fi fy hun ac yn darlunio i fi fy hun. Doeddwn i byth eisiau gorfodi Wonk ar unrhyw un gan ei fod mor bersonol i fi.
Fy ethos gwreiddiol sy'n dal i sefyll hyd heddiw yw fyddwn i byth yn gofyn am gig nac adolygiad na chytundeb recordio na chymeradwyaeth. Dim ond lle mae pobl eisiau Wonk ac yn ei werthfawrogi mae Wonk yn mynd. Doeddwn i byth angen cymeradwyaeth pobl eraill.” - Alex Wonk
Gwefan https://www.lepublicspace.co.uk/events/wonk-unit-the-pleasures-system-reset
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 4th Rhagfyr 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Corn Exchange, The Old Post Office, High Street, Newport, NP20 1AA
Dydd Sadwrn 22nd Chwefror 17:30 - 23:00