Llyfrgell Maindee Library +, 79 Chepstow Road, Newport, Newport, NP19 8BY
Gwybodaeth Dangosiad "Wilding" yn Llyfrgell Maendy
Rydym yn dangos y ffilm "Wilding" - yn seiliedig ar y llyfr ysbrydoledig gan Isabella Tree. Rydyn ni wedi bod yn aros i weld y ffilm hon ers sbel felly fe benderfynon ni weld a oedd modd i ni ei sgrinio yn lleol! Byddem wrth ein bodd petaech chi’n dod. Mae manylion llawn ar gael drwy ddilyn y ddolen Eventbrite (isod) ond y manylion yn fyr yw:
Dyddiad: Dydd Sadwrn 10 Awst
Amser dechrau’r ffilm: 18:00 (Drysau’n agor 17:30)
Lleoliad: Llyfrgell Maendy
Pris tocynnau: £2.50 yr un
Oedran: PG
Dyma'r crynodeb:
Yn seiliedig ar lyfr poblogaidd Isabella Tree o'r un teitl, mae Wilding yn adrodd hanes cwpl ifanc sy'n mentro ar natur ar gyfer dyfodol eu hystâd fethiannus, pedwar can mlwydd oed. Mae’r pâr ifanc yn brwydro traddodiad sydd wedi’i hymwreiddio, ac yn mentro gosod tynged eu fferm yn nwylo natur. Wrth rwygo'r ffensys, maen nhw’n gosod y tir yn ôl i'r gwyllt ac yn ymddiried mewn cymysgedd mwnt o anifeiliaid dof a gwyllt i’w adfer. Mae'n ddechrau arbrawf mawreddog a fydd yn dod yn un o'r arbrofion dad-ddofi mwyaf arwyddocaol yn Ewrop.
"Gwych... Stori wir ysbrydoledig sy'n dangos sut y gallwn adfywio natur ac adfer gobaith. - Patrick Barkham, The Guardian
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael yn y llyfrgell felly archebwch docynnau yma cyn gynted â phosibl.
Mae croeso i chi rannu hyn â’ch rhwydweithiau :)
Gwefan https://fb.me/e/7jua2SrwC
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cymunedol Digwyddiadau
Newport Cathedral of St. Woolos, Stow Hill, Newport, NP20 4ED
Dydd Sul 1st Rhagfyr 16:00 -
Dydd Mercher 25th Rhagfyr 10:30
The Triangle, Chepstow Road, Newport, NP19 8EE
Dydd Sadwrn 21st Rhagfyr 14:00 - 17:00