
International Convention Centre, The Coldra, Newport, Newport, NP18 1HQ
Gwybodaeth Pencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru 2024
Rhwng 22 a 24 Ionawr, mae Cymru'n cynnal y digwyddiad sgiliau lletygarwch mwyaf y mae'r wlad erioed wedi'i weld mewn canolfan ac arddangosfa lletygarwch sy’n para tridiau. Am y tro cyntaf mae'r digwyddiad yn agored ac am ddim i'r cyhoedd ac i fasnachwyr. Mae Pencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru yn dod â chogyddion crefft, cigyddion crefft a staff blaen tŷ at ei gilydd mewn tridiau o gystadlu.
Wedi'i drefnu gan Gymdeithas Goginio Cymru, bydd pencampwriaeth 2024 hefyd yn cynnal rowndiau terfynol lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer prentisiaid lletygarwch gorau'r wlad.
Mae prif gystadlaethau'r bencampwriaeth, Cogydd Cenedlaethol ac Iau Cymru a Chigydd Cymru y Flwyddyn wedi denu’r nifer mwyaf erioed o gystadleuwyr terfynol. Uchafbwynt y Bencampwriaeth fydd coroni'r enillwyr yng Nghinio Gwobrwyo Diwydiant y Bencampwriaeth nos Fercher 24 Ionawr.
Mae cyfle unigryw i ambell ymwelydd lwcus â’r Bencampwriaeth “gerdded yn esgidiau beirniad” a bwcio un o fwydlenni cystadleuwyr y Bencampwriaeth. Bwydlen tri chwrs Cogydd Cenedlaethol Cymru yw £30 y pen ac mae ar gael ddydd Llun 22 Ionawr o 12.30pm a bwydlen dau gwrs Cogydd Iau Cymru yw £20 y person ac mae ar gael ddydd Mawrth 23 Ionawr o 4pm.
I gadw lle ewch i: office@culinaryassociation.wales
Peidiwch ag oedi, mae tocynnau'n gwerthu’n gyflym!
Gwefan https://www.culinaryassociation.wales/competitions/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Bwyd a Diod Digwyddiadau
Bwyd a Diod
6 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Sadwrn 1st Mawrth - 23:59
Bwyd a Diod
, Beechwood House, Christchurch Road, Newport, NP19 8AJ
Dydd Sul 16th Mawrth 10:00 - 15:00