
Peterstone Lakes Golf Club, Peterstone Wentlooge, Cardiff, CF3 2TN
Dydd Mercher 21st Mai 13:30 - 15:00
Gwybodaeth Dydd Mercher Lles: Synhwyrau’r Hafren
Camwch i ganol byd natur ac ailgysylltu â'r byd o'ch cwmpas ar y daith gerdded hamddenol, ymdrochol hon ar hyd Aber Afon Hafren.
Fel rhan o'n prosiect peilot newydd, Llesiant Wastad, rydym yn cynnal cyfres o deithiau tywys sydd wedi'u cynllunio i ysbrydoli pobl sy'n byw ar neu ger Gwastadeddau Gwent i archwilio'r dirwedd unigryw hon ac hefyd i gael blas ar y budd mawr a ddaw o dreulio amser yn yr awyr agored.
Mae treulio amser yn yr awyr agored yn bleserus, ac mae'n gwneud lles i ni hefyd. Mae natur yn rym pwerus ar gyfer lles, boed hynny'n rhythm lleddfol y tonnau, sŵn yr awel drwy’r gwair, neu gân swynol yr adar. Mae astudiaethau yn dangos y gall gwrando ar natur leihau straen, ac mae dim ond edrych ar flodau yn gallu codi ein hwyliau.
Dewch atom ar gyfer taith gerdded hamddenol, adfywiol lle mae natur yn gwneud y gwaith! Byddwn yn defnyddio eich synhwyrau i gyd i archwilio'r morfa heli gyfoethog, gan ein helpu i arafu, clirio ein meddyliau, a theimlo'n fwy cysylltiedig â'r byd o'n cwmpas.
Gwefan https://www.livinglevels.org.uk/events/2025/5/21/wellbeing-wednesdays-severn-senses
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Lles Digwyddiadau
The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Gwener 6th Mehefin 11:00 - 12:00
, Derek Upton Centre, Whitewall, Magor, Caldicot, NP26 3DD
Dydd Mercher 18th Mehefin 19:00 - 20:00