
Caldicot Castle, Church Road, Caldicot, NP26 4HU
Dydd Mercher 28th Mai 14:00 - 15:30
Gwybodaeth Dydd Mercher Lles: Estyn Allan
Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl yn ystod hanner tymor yng Nghastell Cil-y-coed!
Fel rhan o'n prosiect peilot newydd, Llesiant Wastad, rydym yn cynnal cyfres o deithiau tywys sydd wedi'u cynllunio i ysbrydoli pobl sy'n byw ar neu ger Gwastadeddau Gwent i archwilio'r dirwedd unigryw hon ac hefyd i gael blas ar y budd mawr a ddaw o dreulio amser yn yr awyr agored.
Dewch atom ar gyfer taith gerdded natur hamddenol, llawn hwyl, delfrydol i deuluoedd! Wrth i ni grwydro trwy'r coed, byddwn yn treulio amser yn sylwi ar y gwahanol siapiau, gweadau a lliwiau sy'n gwneud pob un yn unigryw.
Ond nid taith gerdded gyffredin mo hon, mae'n gyfle i ailgysylltu’n uniongyrchol â byd natur! Rhowch gynnig ar rwbio rhisgl i ddatgelu patrymau pert, ewch i chwilio am yr holl wahanol liwiau o'ch cwmpas, neu roi cynnig ar ddarlunio gyda chysgodion i ddarganfod a gwerthfawrogi gwahanol ffurfiau byd natur… Mae rhywbeth ar gyfer pob meddwl chwilfrydig!
Boed yn dymuno arafu ychydig ar eich bywyd, ailgysylltu â'r awyr agored, neu ddim ond mwynhau ychydig o awyr iach gyda'r teulu, dyma'ch cyfle i ymlacio, archwilio, a gadael i fyd natur weithio’i swyn arnoch chi.
Croeso i bob oedran - dewch â’ch natur anturus!
Gwefan https://www.livinglevels.org.uk/events/2025/5/28/wellbeing-wednesdays-branching-out
Mwy Teulu Digwyddiadau
Teulu
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Mercher 28th Mai 11:00 - 15:00
Teulu
The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Iau 14th Awst 14:00 -
Dydd Gwener 15th Awst 14:00