Chwaraeon

Tots Tennis (2 - 4 oed)

, Newport International Sport Village, Spytty Boulevard, Newport, NP19 4RA

Gwybodaeth Tots Tennis (2 - 4 oed)

Paratowch am amser da gyda Tots Tennis! Yn berffaith ar gyfer rhai bach sy'n cymryd eu swing cyntaf â raced, mae'r sesiynau hyn yn llawn gemau hwyliog a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i danio cariad at dennis. Rydym yn canolbwyntio ar hanfodion chwaraeon – ystwythder, cydbwysedd a chydlyniad – oll wrth sicrhau bod eich plentyn yn mwynhau mas draw!

Nid tennis yn unig sydd dan sylw - bydd eich un bach yn gwneud ffrindiau newydd, yn meithrin sgiliau cymdeithasol, ac yn chwerthin ar hyd y daith. Hefyd, mae rhieni/gwarchodwyr yn cymryd rhan yn y gamp! Fe'ch anogir i ymuno â'ch un bach ar y cwrt, felly gwisgwch eich daps a mwynhau rhywfaint o amser egnïol gyda'ch gilydd.

Ymunwch â ni Ddydd Llun am 1.15pm a 3:45pm neu Ddydd Sul am 9am. Dim ond £4.70 y plentyn, ac rydym yn darparu'r holl offer. I archebu, ffoniwch 01633 656757 neu archebwch gan ddefnyddio ap Casnewydd Fyw.

Gadewch i ni gael y sêr tennis bach yna yn symud - welwn ni chi ar y cwrt!

Gwefan https://www.newportlive.co.uk/en/sports-wellbeing/tennis/tots-youth-tennis/?utm_source=NCC+Events&utm_medium=Listing&utm_campaign=Tots+Tennis

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Chwaraeon Digwyddiadau

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 28th Rhagfyr 9:00 - 10:00

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 4th Ionawr 9:00 - 10:00