Theatr

Titanic the musical

Dolman Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HY

Dydd Mercher 9th Ebrill 19:15 - Dydd Sadwrn 12th Ebrill 14:15

Gwybodaeth Titanic the musical

Mae'r Playgoers Musical Company yn dod â'r sioe gerdd hon atoch yn seiliedig ar y cymeriadau ar fordaith drasig y llong enwog hon.

Yn oriau olaf 14 Ebrill 1912 bu'r RMS Titanic, ar ei mordaith gyntaf o Southampton i Efrog Newydd, mewn gwrthdrawiad â mynydd iâ a gwnaeth 'y llong ansuddadwy' suddo'n araf. Roedd yn un o drychinebau mwyaf trasig yr 20fed Ganrif. Collodd 1517 o ddynion, menywod a phlant eu bywydau.

Yn seiliedig ar bobl go iawn ar fwrdd y llong fwyaf chwedlonol yn y byd, mae Titanic The Musical yn gynhyrchiad syfrdanol a llawn cyffro sy'n canolbwyntio ar obeithion, breuddwydion a dyheadau ei theithwyr yr aeth pob un arni gyda’u straeon a’u huchelgeisiau personol eu hunain. I gyd yn ddiniwed anymwybodol o'r dynged sy'n eu disgwyl, mae'r mewnfudwyr Trydydd Dosbarth yn breuddwydio am fywyd gwell yn America, mae'r Ail Ddosbarth yn dychmygu y gallant hwythau ymuno â ffordd o fyw'r cyfoethog ac enwog, tra bod Barwniaid o filiwnyddion y Dosbarth Cyntaf yn rhagweld cymynroddion sy'n para am byth.

Gyda cherddoriaeth a geiriau gan Maury Yeston a llyfr gan Peter Stone (Woman of the Year a 1776), mae'r pâr wedi ennill Gwobr yr Academi ar y cyd, Gwobr Emmy, Gwobr Olivier a thair gwobr Tony. Enillodd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol o Titanic The Musical bum Gwobr Tony gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau, y Sgôr Orau a'r Llyfr Gorau. Mae'r cynhyrchiad syfrdanol hwn yn dathlu 10 mlynedd ers ei berfformiad cyntaf yn Llundain lle enillodd glod beirniadol ysgubol drwyddi draw.

Archebwch eich tocynnau heddiw ar gyfer y profiad anhygoel hwn.

Gwefan https://www.dolmantheatre.co.uk/Default.aspx

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Theatr Digwyddiadau

The Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Sadwrn 1st Chwefror 19:30 - 21:30

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Sadwrn 8th Chwefror 20:00 - 22:00