Arcadia , Newport Arcade , Newport , NP20 1GD
Gwybodaeth Tim Lebbon - Gŵyl y Geiriau Casnewydd
Mae Tim Lebbon yn siarad am ei ddau ddegawd yn ysgrifennu straeon arswyd fel bywoliaeth. Gan gynnwys sawl gwobr, teithiau arwyddo aflwyddiannus, cynadleddau Hollywood (da, drwg a blêr iawn) mewn gwestai ofnadwy a baw mynwentydd Transylvania.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl y Geiriau Casnewydd a gynhelir rhwng 20 a 23 Mawrth. Dathliad o eiriau; o gyfansoddi caneuon i adrodd straeon, barddoniaeth i ryddiaith, ac yn cynnwys awduron a pherfformwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.