The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Iau 30th Hydref 11:30 - 14:30
Gwybodaeth The Zoo That Comes To You
Tocynnau - £11
Hyd y sioe - 60 munud. Yn addas ar gyfer plant 5+ oed ond rydym yn croesawu cynulleidfaoedd iau ac oedolion heb gwmni.
Mae The Zoo That Comes To You yn dilyn ymdrechion angerddol dau berson sy'n selog dros anifeiliaid i rannu eu cariad tuag at anifeiliaid a'u pryder amdanynt gyda'r byd. Maen nhw’n cymryd anifeiliaid sydd angen gofal seibiant neu gartref dros dro i mewn ac, ar ddamwain maen nhw wedi diweddu lan gyda lloches gyfan, ond heb unrhyw ymwelwyr! Felly mae pawb – anifeiliaid a phobl fel ei gilydd – wedi penderfynu ei bod hi'n hen bryd mynd allan, gweld y byd, a dod â'r sŵ i chi.
Dewch i gwrdd â'r grŵp eclectig hwn o anifeiliaid swynol ond direidus, wrth iddynt drafod eu profiadau bywyd a'r heriau sy'n eu hwynebu mewn byd sy'n newid yn gyflym. Mae ganddyn nhw lawer i'w ddweud ac maen nhw am ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu, gan eu bod yn gwybod y gall gweithredoedd bach wneud byd o wahaniaeth.
Yn cynnwys pypedau, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus, mae Theatr Scarlet Oak yn eich croesawu i ymuno â'r sgwrs am gadwraeth anifeiliaid.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Teulu Digwyddiadau
Teulu
Celtic Manor Resort, The Coldra, Newport, NP18 1HQ
Dydd Sadwrn 5th Ebrill -
Dydd Sul 27th Ebrill
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Llun 7th Ebrill 10:30 -
Dydd Gwener 25th Ebrill 14:30