Cerddoriaeth

CLWB JAZZ GLAN YR AFON - Chwefror 2026 Isla Croll Quartet

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Gwener 6th Chwefror 20:00

Gwybodaeth CLWB JAZZ GLAN YR AFON - Chwefror 2026 Isla Croll Quartet


Tocynnau – £12

Mae Clwb Jazz Glan yr Afon yn noson fisol sy'n arddangos rhai o'r talentau lleol gorau sy'n dod i'r amlwg ym maes Jazz, cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan Jazz, Ffync, Soul ac R&B. Mwynhewch goctel a synau soniarus artistiaid lleol yng ngofod stiwdio clyd Theatr Glan yr Afon.

Isla Croll Quartet, yn cynnwys Nils Kavanagh (Rownd Derfynol Cerddor Jazz Ifanc y BBC 2024, Cerddor Jazz Ifanc Iwerddon 2022), Sam Green a Benedict Stephens.

Mae Isla Croll wedi bod yn esgyn yn dawel yn sîn jazz Prydain ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Er ei bod hi’n dal yn ifanc, mae ei llais llawn enaid a’r ffordd angerddol y mae hi’n canu’r clasuron o Lyfr Canu America wedi ennill enw da iddi ymhlith ei chyfoedion a beirniaid fel ei gilydd am ei chysylltiad twymgalon a’i pherfformiadau meistrolgar. Yn ddiweddar mae hi wedi ymddangos gyda Band Mawr Sam Every yn Pizza Express Soho, a Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Neuadd Dora Stoutzker gyda Dennis Rollins.

Bydd hi'n perfformio ochr yn ochr â'i thriawd clodwiw, gyda Nils Kavanagh ar y piano (rownd derfynol Cerddor Jazz Ifanc y BBC), Sam Green ar y drymiau (Tom Ollendorff, Paula Gardiner, Huw Warren...), a Benedict Stephens, un o'r chwaraewyr bas dwbl y mae’r galw mwyaf amdanynt yng Nghymru.

Gyda dylanwadau cryf gan Sarah Vaughan, Ella Fitzgerald ac Etta James, bydd hi'n noson o adrodd straeon a swing. Welwn ni chi yna gobeithio!

Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Beacons CIC
* Gallai’r lein-yp newid.

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau

Call the Choir

Cerddoriaeth

Newport

Dydd Mercher 26th Tachwedd 13:47 -
Dydd Llun 8th Rhagfyr 13:47

Holiday Inn Newport, The Coldra, Newport, NP18 2YG

Dydd Gwener 5th Rhagfyr 7:15 -
Dydd Sadwrn 6th Rhagfyr 1:00