, Newport City Campus, Usk Way, Newport, NP20 2BP
Gwybodaeth Dangosiad Ffilmiau Casnewydd
Bydd Dangosiad Ffilmiau Casnewydd, a gynhelir gan Ffilm Cymru Wales a Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnwys première Keefa Chan, Rebels & Renaissance, archwiliad sinematig o artistiaid Casnewydd a hanes dosbarth gweithiol gwrthryfel y siartwyr.
Wedi'i chynhyrchu gan Rewired Life, mae'r ffilm ddogfen fer yn cyfleu hanfod cymuned eclectig ac amrywiol Casnewydd o bobl greadigol leol dalentog, ac yn cynnwys cyfweliadau â Connor Allen, Juls Benson, Georgina Ella Harris, Mohamad Fez Miah a llawer mwy. Bydd sesiwn Holi ac Ateb gyda Keefa yn dilyn y dangosiad cyntaf hwn o'i ffilm.
Mae Dangosiad Ffilmiau Casnewydd hefyd yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau byrion gwych gan bobl leol yn ystod Gŵyl Sgiliau Ffilm Cymru Wales, Troed yn y Drws, yn cynnwys Make A Film in a Week. Gallwch edrych y tu ôl i'r llenni, a chlywed gan rai o'r bobl sy'n gysylltiedig, yn y fideo hwn.
Yn ogystal â premières ffilmiau, mae'r digwyddiad yn gyfle i rwydweithio gyda chymuned greadigol fywiog Casnewydd, gan addo bod yn ofod croesawgar i rannu straeon, gwneud cysylltiadau newydd, a darganfod cyfleoedd hyfforddi a gyrfa yn y diwydiant ffilm.
Mae Dangosiad Ffilmiau Casnewydd yn digwydd am 18:00 ar 29 Tachwedd ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd.
Gwefan https://ffilmcymruwales.com/news-and-events/newport-cut