Theatr

The Magic Bookmark

Riverfront Arts, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Gwybodaeth The Magic Bookmark

Yn syth wedi cyfnod llwyddiannus oddi ar Broadway, gwahoddir cynulleidfaoedd i ymuno â "hoff foneddiges y pantomeim," (Metro) a Mama G, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain's Got Talent, ar antur panto newydd sbon i'r teulu cyfan!

Mae’r dihiryn Book Worm, wedi penderfynu bod darllen yn rhoi gormod o wybodaeth i bobl, ac mae’n gwneud i'r holl lyfrau yn llyfrgell Mama G, ddiflannu. Cyn i'r byd droi ben i waered, rhaid i Mama G achub y dydd trwy ddod o hyd i dri llyfr a fydd yn helpu i wneud y byd yn lle gwell. Wrth gwrs, all hi ddim gwneud hyn ar ei phen ei hun a dyna pryd mae hi'n darganfod y Llyfrnod Hud dirgel a rhyfeddol...

Mae teuluoedd yn siŵr o garu'r sioe adrodd straeon hon sy'n llawn hwyl y panto, rhyngweithio, canu a dawnsio, pypedwaith, a rhai o'r llyfrau lluniau gorau sydd ar y farchnad ar hyn o bryd!

Mae'r sioe wedi'i hysgrifennu yn arddull hwyliog a rhyngweithiol ac unigryw Mama G, gyda chaneuon gwreiddiol gan y digrifwr cerddorol arobryn, Katie Pritchard. Llais y Magic Bookmark yw’r seren o’r West End, Julie Yammanee (Bonnie and Clyde, Lasarus ac Avenue Q.)

Gwefan https://newportlive.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173639996

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Theatr Digwyddiadau

The Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Sadwrn 1st Chwefror 19:30 - 21:30

The Riverfront, Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Sadwrn 8th Chwefror 20:00 - 22:00