Immersed!

Gŵyl The Eye

Riverfront Theatre , Kingsway, Newport, NP20 1HG

Dydd Gwener 15th Mai 18:00 - Dydd Sul 17th Mai 15:00

Gwybodaeth Gŵyl The Eye


Bydd Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas rhwng Mai 15 a 17, gan ddathlu celfyddyd ffotograffiaeth trwy arddangosfeydd, sgyrsiau a gweithdai.

Mae'r ŵyl yn agor am 6pm ddydd Gwener 15 Mai yn oriel Clwb Ffoto gyda lansiad yr arddangosfa "Patterns" gan David Hurn, y ffotograffydd dogfen o Gymru a’r aelod o Magnum Photos.

Ddydd Sadwrn 16 Mai, bydd lein-yp anhygoel o siaradwyr byd-enwog yn Theatr Glan yr Afon:
- Sian Trenberth, ffotograffydd clodwiw ym maes y celfyddydau perfformio, dawns a theatr
- Paul Stuart, ffotograffydd portreadau (gan gynnwys David Beckham, Giorgio Armani a mwy)
- Emily Garthwaite, ffotonewyddiadurwr arobryn
- Jaap Buitendijk, un o ffotograffwyr lluniau llonydd ffilm mwyaf blaenllaw'r byd (Gladiator, Barbie a 12 Years a Slave)

Ddydd Sul 17 Mai, bydd cyfres o sesiynau gan gynnwys gweithdai cyanoteip, sesiwn Cwrdd â'r Ffotograffwyr a sesiwn beirniadu portffolio yn The Place, Bridge Street yn ogystal â'r cyfle i dynnu eich llun gan Si Jubb.

Hefyd, bydd arddangosfeydd gan Neil Bennett a Paul Reas yn Gallery 57, Mike Taylor yn The Place a Ron McCormick yn Arcêd y Farchnad.

Mae tocynnau yn £50 (ynghyd â ffi archebu) ac yn cynnwys mynediad i'r holl ddigwyddiadau yn ystod y penwythnos.

Am ragor o fanylion, ewch i www.theeyefestival.com neu dilynwch @theeyefestival ar Instagram



Gwefan https://www.theeyefestival.com

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad