The Riverfront Theatre & Arts Centre , NP20 1HG
Gwybodaeth Mae'r dreigiau yn dod! Dathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad
Mae'r Dreigiau’n Dod! - Dathliad Ysblennydd Blwyddyn Newydd y Lleuad 喜迎新春「賀龍年」
Paratowch ar gyfer taith i ganol Blwyddyn Newydd y Lleuad "Mae'r Dreigiau’n Dod!" - ymunwch â ni am ddiwrnod yn llawn perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau yn dathlu ysbryd Blwyddyn Newydd y Lleuad.
Trefn y Digwyddiadau:
1. Bydd y rhuo’n dechrau yn Friars Walk, y tu allan i'r Amgueddfa a'r Oriel Gelf. 醒獅賀歲
• Amser: 10:00 AM
• Dechreuwch ar antur bythgofiadwy gyda gorymdaith fywiog sy'n cynnwys dawnswyr llew hudolus, yn plethu drwy Friars Walk. Teimlwch yr egni wrth i'r strydoedd ddod yn fyw. Peidiwch anghofio gwisgo'ch dillad coch gorau neu drawsnewid yn ddraig ar gyfer yr orymdaith deuluol hwyliog hon.
2. Taith i Theatr Glan yr Afon 巡遊
• Amser: 10:30 AM
• Dilynwch cynffon y ddraig wrth i ni wneud ein ffordd i Theatr Glan yr Afon, lle mae diwrnod o ŵyl yn aros!
3. Dadorchuddio Cuddfan y Ddraig - Theatr Glan yr Afon 工作坊
• Amser: 11:00 AM - 5:00 PM
Gweithdai: Gweithdy Pypedau Cysgodion Canfyddwch y grefft hynafol o bypedwaith cysgodion, gan greu eich straeon hudolus eich hun yn erbyn cynfas o oleuni a chysgodion. Gweithdy Seremoni Te Tsieineaidd: Ymgollwch yng ngheinder diwylliant te Tsieineaidd wrth i chi ddysgu'r grefft o fragu a blasu te traddodiadol. - Gorsaf Caligraffeg: Crefftwch eich cyfarchion Blwyddyn Newydd Tsieineaidd eich hun o dan arweiniad caligraffydd medrus - Cornel Torri Papur: Archwiliwch gelfyddyd gymhleth torri papur, gan lunio geiriau, cyfarchion a llusernau Tsieineaidd gyda manylder.
Tynnwch eich llun gyda'ch cymeriad geni Tsieineaidd!
Crefftau creadigol am ddim i'r ifanc a'r ifanc eu hysbryd. Gwnewch lusern, creu draig a llawer mwy!
Cerddoriaeth a pherfformiadau drwy gydol y dydd.
Daw’r digwyddiad i ben gyda cherflun tân dramatig
5:00 PM- Turning Red Disney. Am ddim
Turning Red (PG)
Yn Turning Red, mae Mei Lee yn ferch hyderus, tair ar ddeg oed ac yn brwydro rhwng aros yn ferch i’w mam neu gael blas ar wallgofrwydd yr arddegau. Ac fel pe na bai’r newidiadau i'w diddordebau, ei pherthnasoedd, a'i chorff yn ddigon, pryd bynnag y bydd hi'n cyffroi gormod (sef BOB AMSER mwy neu lai i berson yn ei arddegau), mae’n troi’n banda coch enfawr!
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fod yn rhan o'r dathliad a chroesawu Blwyddyn Newydd y Lleuad
Mae'r digwyddiad cyfan yn rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Theatr Glan yr Afon a Chanolfan Gymunedol Tsieineaidd Casnewydd. Mae wedi bod yn bosibl gyda chyllid o gronfa ffyniant gyffredin llywodraeth y DU drwy Gyngor Dinas Casnewydd.