Corn Exchange, High Street, Newport, NP20 1AA
Dydd Sadwrn 13th Rhagfyr 19:30 - 23:00
Gwybodaeth THE BOHEMIANS
Mae’r Bohemians, sy’n cael eu hystyried fel ‘teyrnged Queen mwyaf cyffrous y byd’, yn dechrau fel y maen nhw’n bwriadu parhau.
O'r cychwyn cyntaf, fe gewch chi eich gwefreiddio gan gynrychiolaeth clyweledol diledryw a bombastig o berfformiad eiconig Queen yn Wembley yn '86 wrth i'r Bohemians byrstio i’r llwyfan i One Vision ac A Kind of Magic. Mae cymaint o ganeuon gwych i'w chwarae ond maen nhw i gyd yma, o’r rhyfeddodau cynnar trwm eu defnydd o harmonïau a’r piano fel Killer Queen a Don't Stop Me Now, i anthemau pop bachog yr wythdegau.
Mae'r ail awr yn canolbwyntio ar y caneuon diweddarach ac unwaith eto mae cymaint i ddewis ohonynt.
Mae'r anhygoel Breakthru yn darparu'r rhagymadrodd a chyflwyniad y gwisgoedd ar gyfer y rhan hon o'r set sy'n cynnwys nodwedd newydd o sioe lwyfan y Bohemians, datganiad slic o glasuron o ddiwedd yr wythdegau a dechrau'r nawdegau. Mae I Want it All, The Show Must Go On a Days of Our Lives yn ddim ond rhai o’r rheiny sy’n cael eu perfformio.
Nesaf, golygfeydd a synau’r perfformiad Live Aid enwog ac wrth gwrs, y syfrdanol Bohemian Rhapsody. Yna, nôl i Wembley yn '86 ar gyfer diweddglo llawn cyffro wrth i’r Bohemians eich cael ar eich traed, yn canu, yn dawnsio ac yn clapio i We Will Rock You a We Are the Champions. Uchafbwynt priodol i ail-berfformiad byw gwirioneddol gofiadwy o fand roc mwyaf y byd.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 26th Mawrth 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Le Pub, 14 High Street, NOTTINGHAM, NP20 1FW
Dydd Gwener 4th Ebrill 19:30 - 23:00