Hanes

6 Phont Restredig Gradd 1 Aber Afon Hafren

Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square , Newport, Newport, NP20 1PA

Gwybodaeth 6 Phont Restredig Gradd 1 Aber Afon Hafren

Dewch i ddarganfod straeon diddorol 6 phont fawr Aber Hafren, pam eu bod mor arbennig a sut maen nhw mor bwysig yn fyd-eang!

Er bod ein Canolfan Ymwelwyr Pont Gludo newydd sbon wrthi'n cael ei hadeiladu, mae ein cyfres boblogaidd 'Sgwrs y Bont' yn parhau yn Amgueddfa ac Oriel Casnewydd gyda'r sgwrs hynod ddiddorol hon gan John Burrows:

Mae Pontydd Rhestredig Gradd 1 yn hynod brin. Dim ond 3 Pont Restredig Gradd 1 sydd gan Lundain hyd yn oed, ond mae gan Aber Afon Hafren 5 adeiledd pont restredig Gradd 1 - Pont Hafren (1966); Pont Cas-gwent (1816); Pont Grog Clifton (1864); ein Pont Gludo Casnewydd ni (1906); a Pier Clevedon (1869) a 6 os ydych yn cynnwys Pont Monnow (1272) yn Nhrefynwy.

Mae'r sgwrs hon yn edrych ar y 5 pont ac un pier ac yn esbonio pam eu bod yn rhai Rhestredig Gradd 1, ac fel grŵp pam maen nhw’n unigryw yn y DU gan mai dim ond un ohonynt sydd wedi’i gynnwys oherwydd ei hynafiaeth ac eto mae 80% o'r holl bontydd rhestredig Gradd 1 yn y DU yn Radd 1 oherwydd eu hoedran mawr.

Mae gan bedwar o'r 6 adeiledd arwyddocâd byd-eang, ac mae un wedi cael effaith uniongyrchol ar 70% o bontydd rhychwant hiraf y byd.


Gwefan https://www.facebook.com/events/336164345732990?ref=newsfeed

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Hanes Digwyddiadau

Caerleon Roman Fortress Baths, High Street, Newport, NP18 1AE

Dydd Iau 2nd Ionawr 11:00 -
Dydd Sul 5th Ionawr 16:00