6 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Sadwrn 1st Mawrth - 23:59
Gwybodaeth Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn The Lamb!
Dewch i ddathlu Cymru a'i holl draddodiadau balch ar Ddydd Gŵyl Dewi yn The Lamb! Mae gennym y cyfunuiad perffaith o ddiodydd Cymreig gwych, awyrgylch hwyliog, a chynnig arbennig i unrhyw un sy'n teimlo ychydig yn fwy gwladgarol.
Beth sy’n Digwydd:
20% oddi ar Gynnyrch Spirit of Wales – I anrhydeddu Dewi Sant, rydyn ni'n cynnig 20% oddi ar holl gynnyrch Spirit of Wales i unrhyw un sy'n gwisgo coch! P'un a yw'n sgarff goch, top, neu wisg lawn Gymreig, dangoswch eich gwisg goch orau i ni, a chewch ostyngiad ar rai o'r gwirodydd gorau o Gymru.
Chwisgi a Gwirodydd Cymreig – Mwynhewch ein detholiad o chwisgi, jin a gwirodydd Cymreig, gan gynnwys Chwisgi Penderyn enwog a Gwirod Hufen Merlyn adfywiol. Perffaith ar gyfer sipian neu gymysgu yn eich hoff coctel!
Coctels wedi’u hysbrydoli gan Gymru – Rydym wedi creu coctels arbennig Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu'r achlysur. Meddyliwch am flasau Cymru, sy'n cynnwys cynhwysion lleol, perlysiau ffres, ac wrth gwrs, ychydig o ysbryd Cymreig!
Cerddoriaeth ac Awyrgylch Cymreig – Ymunwch yn yr hwyl gydag alawon Cymreig traddodiadol yn chwarae drwy'r nos! O harddwch emosiynol Hen Wlad Fy Nhadau (anthem genedlaethol Cymru) i ganeuon modern gan artistiaid gorau Cymru, mae'n siŵr o greu’r naws ar gyfer dathliad hwyliog.
Byrbrydau Cymreig am ddim – Bydd gennym rai byrbrydau Cymreig traddodiadol ar gael, caws pob, bara brith, ac efallai pice bach hyd yn oed i’w mwynhau wrth i chi sipian eich diodydd.
Man Ffotograffau Dydd Gŵyl Dewi – Dathlwch eich balchder Cymreig trwy dynnu llun yn ein man ffotograffau ar thema, yn cynnwys baneri, dreigiau, a phob dim sy’n goch!
Gwisg: Gwisgwch goch i gael eich gostyngiad o 20% ar gynnyrch Spirit of Wales a byddwch yn barod i fwynhau noson llawn swyn Cymreig, diodydd gwych, a chwmni gwell fyth!
Gwefan https://www.thelambpub.com/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Bwyd a Diod Digwyddiadau
6 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Iau 13th Chwefror 19:00 - 0:00
6 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Gwener 14th Chwefror 20:00 - 0:00