RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sadwrn 17th Ionawr 14:30 - 16:40
Gwybodaeth Cawl a Drudwy yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
Wrth i'r hydref droi’n aeaf, mae cymylau drudwy yn olygfa bywyd gwyllt ysblennydd na ddylid ei cholli. Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau gyda phowlen gynnes o gawl wedi’i wneud yn lleol o'n Caffi a chyflwyniad i ddatrys rhai o ddirgelion y cymylau drudwy. Yna byddwn yn mynd i'r warchodfa gyda'n tywyswyr gwybodus ac yn dangos y lleoedd gorau i chi weld y cymylau drudwy.
Yn ogystal â’r drudwy gwych, rydym yn aml iawn yn gweld ysglyfaethwyr megis boda’r wern neu’r gwalch glas yn hela wrth i'r haul fachlud dros y gwelyau cyrs. Wrth gwrs, ni allwn warantu y bydd y drudwy yno, ond mae'n anarferol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr i beidio â gweld unrhyw gymylau drudwy. Cyrhaeddwch 10 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau i gofrestru yn y ganolfan ymwelwyr. Mae tocynnau'n gyfyngedig felly rydym yn eich cynghori i gadw lle cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi. Byddwn yn cynnal y digwyddiadau hyn bron ym mhob tywydd gan na fydd y gwynt na’r glaw yn atal y drudwy!
Hygyrchedd: Mae gennym ddewis mawr o lwybrau yng Nghasnewydd sy'n gwbl hygyrch. Mae gennym offer symudedd i'w llogi am ddim gan gynnwys sgwteri trydan a chadeiriau olwyn i’w gwthio â llaw. Cysylltwch â ni cyn cadw lle os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hygyrchedd.
Mae'r caffi ar agor 10am-4pm. Gallwch logi binocwlars o'r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae gennym offer chwarae i blant yn ein Parth Darganfod. Gallwch hefyd logi pecyn Cyrch Natur ar gyfer mwy o anturiaethau ar y diwrnod!
Dewch â phrawf wedi’i argraffu neu electronig o'ch tocyn. Os gwnaethoch chi gadw lle fel aelod o'r RSPB, mae angen i'r aelod hwnnw ddod â'i gerdyn aelodaeth.
Gwefan https://events.rspb.org.uk/events/146274?showDates=1&showItems=1
Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau
RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sul 18th Ionawr 14:30 - 16:40
RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ
Dydd Sadwrn 24th Ionawr 9:00 - 11:30