Sgyrsiau

Cawl a Drudwy yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ

Gwybodaeth Cawl a Drudwy yng Ngwlyptiroedd Casnewydd


Wrth i'r hydref droi’n aeaf, mae cymylau drudwy yn olygfa bywyd gwyllt ysblennydd na ddylid ei cholli yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau gyda phowlen gynnes o gawl wedi’i wneud yn lleol o'n caffi a chyflwyniad i helpu i ddatrys rhai o ddirgelion y cymylau drudwy. Yna byddwn yn mynd ymlaen i'r warchodfa gyda'n tywyswyr gwybodus ac yn dangos y lleoedd gorau i chi weld y cymylau drudwy drosoch eich hunain.

Yn ogystal â sioe wych y drudwy, rydym yn aml iawn yn gweld ysglyfaethwyr megis boda’r wern neu’r gwalch glas yn hela wrth i'r haul fachlud dros y gwelyau cyrs. Wrth gwrs, ni allwn warantu y bydd y drudwy yno, ond mae'n anarferol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr i beidio â gweld unrhyw gwmwl drydwy yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Cyrhaeddwch yn brydlon 10 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau i gofrestru yn y ganolfan ymwelwyr. Mae tocynnau'n gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gadw lle cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi. Byddwn yn cynnal y digwyddiadau hyn bron ym mhob tywydd gan na fydd y gwynt na’r glaw yn atal y drudwy!
Beth arall sydd i'w wneud yng Ngwlyptiroedd Casnewydd? Mae'r caffi ar agor 10am-4pm. Gallwch logi ysbienddrych o'r ddesg groeso. Mae gennym faes parcio sydd am ddim i aelodau'r RSPB ac sy’n costio £5 y car am y dydd, i bobl nad ydynt yn aelodau.

Oes rhaid i mi ddod â thocyn wedi’i argraffu i’r digwyddiad? Dewch â phrawf wedi’i argraffu neu electronig o'ch tocyn. Os gwnaethoch chi gadw lle fel aelod o'r RSPB, mae angen i'r aelod hwnnw ddod â'i gerdyn aelodaeth gydag ef.

Beth sydd angen i mi ddod ag ef? Gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd a’r amodau, gan gynnwys esgidiau cadarn. Bydd disgwyl i chi sefyllian am ychydig, felly gwisgwch ddillad mewn haenau cynnes, gan y gall fod yn oer iawn allan yn y warchodfa. Dylid dod ag offer tywydd gwlyb rhag ofn. Dewch â'ch ysbienddrych, eich sgôp neu'ch camera os ydyn nhw gennych i'ch helpu i gael golwg agosach ar y bywyd gwyllt y gallen ni ei weld. Efallai y byddwch am ddod â diod a/neu fyrbryd.

Alla i ddod â'm ci? Dim cŵn os gwelwch yn dda, ac eithrio cŵn cymorth.






Archebu digwyddiad

Mwy Sgyrsiau Digwyddiadau

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ

Dydd Sadwrn 24th Ionawr 9:00 - 11:30

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Nash, Newport, Newport, NP18 2BZ

Dydd Sadwrn 24th Ionawr 13:30 - 15:00