
Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Gwybodaeth Romeo a Juliet
Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics' Circle, yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare, "Romeo a Juliet".
Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.
Mae "Romeo a Juliet" yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre. Enillodd y cynhyrchiad hwn Wobr Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Dawns Gorau Ar Raddfa Fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein haddasiad ballet o’r clasur hwn gan Shakespeare unwaith eto.
Gwefan https://ballet.cymru/company_news_1/on-tour-in-2024-romeo-a-juliet/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Theatr Digwyddiadau
Theatr
Dolman Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HY
Dydd Mawrth 29th Ebrill 19:00 -
Dydd Iau 1st Mai 19:00
Dolman Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HY
Dydd Gwener 9th Mai 19:00 -
Dydd Sadwrn 10th Mai 19:00