Chwaraeon

Ras Sglefrolio gyda Riot City Ravens

1/2

Active Living Center, Bettws Lane, Newport, NP20 7YB

Gwybodaeth Ras Sglefrolio gyda Riot City Ravens

Dydd Mercher 7-9pm, Canolfan Byw'n Actif Betws, Casnewydd.

Dewch i ddysgu chwarae gêm ras sglefrolio ac ymunwch â'ch tîm lleol yng Nghasnewydd!

Mae Ras Sglefrolio yn gamp gyswllt sy'n cael ei chwarae gydag esgidiau sglefrio cwad, ac mae Casnewydd yn ffodus i gael ei thîm merched ei hun - y Riot City Ravens. Mae ras sglefrolio yn ffordd wych o gadw'n heini, cwrdd â phobl newydd, a chael gwared ar rywfaint o egni mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol.

Mae gan ein tîm gymysgedd o alluoedd, ac mae'n croesawu chwaraewyr newydd yn rheolaidd. Mae gennym grŵp medrus o hyfforddwyr yn barod i'ch cyflwyno i'r gamp. Os ydych eisoes yn chwarae, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu.

Beth am herio eich hun a rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Rydym yn methu aros i gwrdd â chi!

Anfonwch neges atom ar Facebook neu anfonwch e-bost atom yn riotcityravens@gmail.com cyn eich sesiwn gyntaf - gallwch fenthyg dillad gennym ni os oes angen. Rhaid i chi fod dros 18 oed.

Gwefan https://www.facebook.com/riotcityravens

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Chwaraeon Digwyddiadau

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 28th Rhagfyr 9:00 - 10:00

NP10 8YW

Dydd Sadwrn 4th Ionawr 9:00 - 10:00