The Green Kitchen, 25 Charles Street, Newport, NP20 1JT
Gwybodaeth Gweithdy Rhyngweithiol Bwrw’r Blinder a Chael Egni’n Ôl a Choctels Sudd
Ymunwch â ni am brofiad maethlon ac ymarferol sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i arafu, ailddechrau a dysgu sut i gael egni’ch corff yn ôl o ddifrif.
Mae Bwrw’r Blinder a Chael Egni’n Ôl yn weithdy ysgafn, cefnogol lle rydym yn archwilio pwysigrwydd gorffwys dwfn a ffyrdd ymarferol o adfer eich egni. Trwy ymlacio dan arweiniad ac arferion adferol syml, byddwch yn creu lle i ystwytho’ch system nerfol a chael egni’ch corff yn ôl.