Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Sadwrn 29th Tachwedd 13:00 - Dydd Sul 4th Ionawr 15:30
Gwybodaeth Rapunzel - Panto Glan yr Afon 2025
Ymunwch â ni yn Theatr Glan yr Afon am stori wefreiddiol lle mae hud a direidi yn cydblethu i greu pantomeim newydd sbon yng Nghasnewydd, sef Rapunzel!
Mae'r Brenin Derek a'r Frenhines Dorothy yn taro bargen ofnadwy gyda swynwraig ddrygionus, gan adael eu merch annwyl, Rapunzel, yn gaeth mewn tŵr uchel yn ddwfn yng nghoedwig Cymru. Pan mae Rapunzel yn darganfod y gwir am ei gorffennol, mae’n mynd ati i ddianc, a dyna ddechrau’r antur. A ellir torri'r swyn neu a fydd yr hud yn ei chadw dan glo am byth?
Ymunwch â Rapunzel, tywysog dewr, eich hoff gymeriadau comedi a chast gwych y pantomeim llawn cyffro hwn, lle mae tyrau'n uchel, yr hud a’r lledrith yn ddrygionus, a’r anturiaethau’n codi ofn! Gyda gwisgoedd disglair, golygfeydd trawiadol, cymeriadau drwg a direidus, a digonedd o gyfranogiad gan y gynulleidfa, bydd hon yn sioe fythgofiadwy.
Byddwch yn rhan o fyd yr hud a’r lledrith rhwng 27 Tachwedd 2025 a 4 Ionawr 2026. A fydd pawb yn byw yn hapus am byth ar ddiwedd y sioe? Dim ond un ffordd sydd o wybod! Ymunwch â ni am banto heb ei ail!
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Teulu Digwyddiadau
Teulu
The Riverfront Theatre, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Dydd Mercher 5th Chwefror 17:00 - 20:30
Teulu
The Place, Newport, NP20 4AL
Dydd Gwener 7th Chwefror 11:00 - 13:00