Newport Bus Station, Kingsway, Newport, NP20 1GB
Gwybodaeth Taith Gerdded Rheilffordd 200 o amgylch Pilgwenlli
Taith dywys ar hyd lan orllewinol (glan canol y ddinas) Afon Wysg yng Nghasnewydd, gan archwilio'r màs o linellau rheilffordd sydd wedi hen fynd yn angof a arweiniodd at ardal Pilgwenlli, y Dociau a'r Bont Gludo (gyda'i 'drac wyneb i waered').
Bydd lluniau ar gael yn ystod y daith gerdded i ddarlunio’r ddrysfa o linellau rheilffordd sy'n arwain at siediau injan trenau, sy'n dal i sefyll, o'r cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd. Bydd y daith yn gorffen yng Nghanolfan Ymwelwyr newydd sbon odidog Pont Gludo Casnewydd, a fu ar un adeg yn safle nifer o linellau gwahanol gwmnïau, gan arwain i'r dociau prysur ac oddi yno.
Bydd y daith gerdded yn dechrau o Orsaf Fysiau Casnewydd ac mae’n tua 2 filltir o hyd, yn hollol wastad ac yn cael ei gerdded yn araf, gyda seibiannau rheolaidd i esbonio seilwaith rheilffordd pob lleoliad yn y gorffennol. Gellir defnyddio gwasanaeth bysiau o Bilgwenlli i fynd yn ôl i ganol y dref neu gellir cerdded yn unionsyth am 1 filltir o'r Ganolfan Ymwelwyr.
Mwy Hanes Digwyddiadau
Newport Rising Hub, 170 Commercial Street, Newport, NP20 1JN
Dydd Mercher 14th Ionawr 19:00 - 20:30