Peterstone Village Hall , Peterstone Wentlooge, Saint Brides, Newport , CF3 2TP
Dydd Gwener 25th Ebrill 10:00 - 14:00
Gwybodaeth Diwrnod Natur Llan-bedr Gwynllŵg
Mae Save the Six Bells, Gwastadeddau Byw, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a Phartneriaeth Natur Leol Casnewydd yn cydweithio i ddod â diwrnod llawn hwyl ar thema natur i chi i ddathlu bywyd gwyllt lleol Gwastadeddau Gwent a chymryd rhan yn Her Byd Natur y Ddinas 2025!
Yr hyn i’w ddisgwyl:
Mae'r digwyddiad galw heibio hwn yn berffaith ar gyfer pob oedran ac yn cynnig cymysgedd o weithgareddau natur ymarferol.
- Darganfyddwch llygod y dŵr, dyfrgwn a bywyd gwyllt arall gydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
- Dysgwch sut i weld arwyddion o'r rhywogaethau cyfrinachgar hyn a'r hyn sy'n cael ei wneud yn lleol i'w gwarchod.
Cymerwch ran yn Her Byd Natur y Ddinas! Dewch i roi cynnig ar adnabod bywyd gwyllt gyda chanllawiau natur, microsgopau, ysbienddrychau, potiau chwilod, a rhwydi ysgubo.
- Darganfyddwch eich dawn garddio gyda Blas Gwent, yn hau eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun i fynd â nhw adref a’u gwylio yn tyfu.
- Ymunwch â thaith dywys i fur y môr a'r morfa heli gyda Gwastadeddau Byw, cyfle gwych i archwilio a dysgu am y cynefin unigryw hwn (12:30pm)
- Byddwch yn greadigol gydag amrywiaeth o grefftau ar thema natur, gan gynnwys gwneud bathodynnau
- Darganfyddwch fwy am Save the Six Bells, gweledigaeth gyffrous i drawsnewid tafarn y Six Bells yn ganolfan ymwelwyr sy'n dda i natur. Rhannwch eich syniadau a dywedwch wrthym beth hoffech chi ei weld yn y gymuned!
Dewch â'ch chwilfrydedd, eich teulu/ffrindiau, a'ch cariad at fywyd gwyllt lleol – byddwn yn rhoi’r gweddill.
Mae parcio yn gyfyngedig, rhannwch car lle bo hynny'n bosibl. Mae llwybrau bysus lleol ar gael o Orsaf Fysus Casnewydd - https://www.newportbus.co.uk/services/NT0/31A
Gwefan https://www.livinglevels.org.uk/events/2025/4/25/peterstone-nature-day
Mwy Teulu Digwyddiadau
Teulu
Celtic Manor Resort, The Coldra, Newport, NP18 1HQ
Dydd Sadwrn 5th Ebrill -
Dydd Sul 27th Ebrill
West Nash Road, Newport, NP18 2BZ
Dydd Llun 7th Ebrill 10:30 -
Dydd Gwener 25th Ebrill 14:30