Cerddoriaeth

Panic Shack

Corn Exchange, High Street, Newport, NP20 1AA

Dydd Sul 25th Mai 19:00 - 23:00

Gwybodaeth Panic Shack

Does dim diddordeb gyda Panic Shack yn yr allweddi i glwb y bechgyn nac ymladd â’u penelinoedd am sedd wrth y bwrdd. Maen nhw gyda chi, mas ’na: yn y pwll, wrth y bar, yn y sgwrs grŵp–ac mae eu sŵn, pregethau pync bachog sy'n troedio’r llinell rhwng cellwair yr ardal smygu a chynddaredd am y byd rydyn ni'n byw ynddo, yn mynnu cael ei glywed. Gyda Sarah Harvey (llais), Meg Fretwell (gitâr/llais cefndir), Romi Lawrence (gitâr/llais cefndir), Em Smith (bas) a Nick Williams (drymiau), ffurfiwyd Panic Shack fel gweithred o herfeiddiad: "Fe ddechreuon ni'r band achos roedden ni wedi treulio blynyddoedd yn mynd i gigs yn cefnogi ein ffrindiau ‘indie boy’ a’u bandiau," eglura Lawrence. "Un diwrnod, feddylion ni, ‘pam nad ydyn ni'n gwneud hyn ein hunain, all e ddim fod mor anodd â hynny?’ Yn y dechrau, roedden ni jyst eisiau rhoi cynnig arni a chael amser da, ond nawr gallwn ni ddangos i bobl fod dim rhaid i gerddoriaeth deimlo fel ‘clwb aelodau’ neu fel rhywbeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd. Os gallwn ni wneud e, yn llythrennol gall unrhyw un!" Yr ymdeimlad hwnnw o gynwysoldeb sy'n treiddio i bopeth mae Panic Shack yn ei wneud: band sy’n ysgrifennu caneuon bachog ac anhrefnus, prin oedd ei gitaryddion yn gallu chwarae pedwar cord pan wnaethant ffurfio, ar ôl ffeindio gitârs yn yr atig. Yr un math o lwybr â Young Marble Giants neu ESG, ond anaml y byddai'r bandiau hynny’n swnio mor hwyl neu mor fyw. Gallech ddweud nad oes neb mas ‘na yn gwneud hyn ar hyn o bryd, ond mae'n debyg y byddai hynny'n colli’r pwynt. Gwnaeth perfformiadau byw egnïol y band ddenu llwyth o gefnogwyr selog yn y sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd er nad oedd ganddyn nhw lawer o gerddoriaeth ar gael ar-lein. Gwireddodd eu EP cyntaf yn 2022, Baby Shack, yr addewid cynnar hwnnw: ergyd 6 thrac o bync-roc cyflym wedi'i gyflwyno gyda winc wybodus. Cafodd ei recordio gan Tom Rees o Buzzard Buzzard Buzzard yn ei stiwdio, Rat Trap–canolbwynt creadigol ar gyfer talent y ddinas. Fe wnaeth yr EP, sy’n anrhefn lwyr ac yn fyfyrdod ar gyflwr y byd ar yr un pryd, sbarduno cysylltiad ar unwaith, gan werthu pob copi finyl.

Archebu digwyddiad

Lleoliad y digwyddiad

Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau

Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX

Dydd Mercher 26th Mawrth 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15

Le Pub, 14 High Street, NOTTINGHAM, NP20 1FW

Dydd Gwener 4th Ebrill 19:30 - 23:00