Corn Exchange, The Old Post Office, High Street, Newport, NP20 1AA
Dydd Sadwrn 24th Mai 19:00 - 23:00
Gwybodaeth Panic Shack
Does dim diddordeb gan Panic Shack yn yr allweddi i glwb y bechgyn nac ymladd â’u penelinoedd am sedd wrth y bwrdd. Maen nhw gyda chi, allan ’na: yn y pwll, wrth y bar, yn y sgwrs grŵp–ac mae eu sŵn, llythyrau pync bachog sy'n troedio’r llinell rhwng tynnu coes yr ardal smygu a chynddaredd am y byd rydyn ni'n byw ynddo, yn mynu cael ei glywed. Yn cynnwys Sarah Harvey (llais), Meg Fretwell (gitâr/llais cefndir), Romi Lawrence (gitâr/llais cefndir), Em Smith (bas) a Nick Williams (drymiau), ffurfiwyd Panic Shack yn herfeiddiol: "Fe ddechreuon ni'r band achos roedden ni wedi treulio blynyddoedd yn mynd i gigs yn cefnogi ein cyd-aelodau band indi boi," eglura Lawrence. "Un diwrnod, feddylion ni, pam nad ydyn ni'n gwneud hyn ein hunain, all e ddim bod mor anodd â hynny ’does bosib?" Yn y dechrau, roedden ni jyst eisiau rhoi cynnig arni a chael amser da, ond nawr gallwn ni ddangos i bobl fod ddim rhaid i gerddoriaeth deimlo fel 'clwb aelodau' neu fel rhywbeth sydd y tu hwnt i'w cyrraedd. Os gallwn ni wneud hyn, yn llythrennol gall unrhyw un! "Yr ymdeimlad ’na o gynwysoldeb sy'n treiddio i bopeth mae Panic Shack yn ei wneud: band yn ysgrifennu caneuon bachog, anhrefnus, y gallai eu gitaryddion prin chwarae pedwar cord pan wnaethant ffurfio, ar ôl ffeindio gitârs yn yr atig. Yr un math o lwybr â Young Marble Giants neu ESG modern, ond anaml y byddai'r bandiau hynny’n swnio mor hwyl neu mor fyw. Gallech chi ddweud fod ’na neb allan yna yn gwneud hyn ar hyn o bryd, ond mae'n debyg y byddai hynny'n colli’r pwynt. Gwnaeth perfformiadau byw egnïol y band ddenu llwyth o gefnogwyr selog yn y sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd er nad oedd ganddyn nhw lawer o gerddoriaeth ar gael ar-lein. Gwireddodd eu EP cyntaf yn 2022, Baby Shack, yr addewid cynnar hwnnw: ergyd 6 thrac o bync-roc cyflym wedi'i gyflwyno gyda winc wybodus. Cafodd ei recordio gan Tom Rees o Buzzard Buzzard Buzzard yn ei stiwdio, Rat Trap–canolbwynt creadigol ar gyfer talent y ddinas. Sbardunodd yr EP gysylltiad ar unwaith, yn anrhefn ac yn fyfyrdod ar gyflwr y byd, gan werthu pob copi finyl.
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Cerddoriaeth Digwyddiadau
Cerddoriaeth
Stow Park Community Centre, Brynhyfryd Road, Newport, NP20 4FX
Dydd Mercher 4th Rhagfyr 19:45 -
Dydd Mercher 9th Gorffennaf 21:15
Cerddoriaeth
Corn Exchange, The Old Post Office, High Street, Newport, NP20 1AA
Dydd Sul 26th Ionawr 19:00 - 23:00