Newport Transporter Bridge Visitor Centre , Usk Way, Newport, NP20 2JG
Gwybodaeth Taith Gerdded Forwrol yr Hydref Casnewydd
Awydd crensian eich ffordd drwy ddail yr Hydref a darganfod rhywbeth newydd am hanes morwrol Casnewydd? Ymunwch â ni ar daith i ddarganfod a dathlu arwyr ac arwresau Morwrol Casnewydd gyda theithwyr cudd yr Antarctig, achubwyr arwrol, rhyddid Hollywood, menywod arloesol a thorpidos digyfeiriad hyd yn oed - dewch i ddarganfod eu hanesion!
Yng nghwmni'r hanesydd a'r awdur lleol Andrew Hemmings, byddwch yn ymuno â Thîm Pont Gludo Casnewydd ar ein taith boblogaidd yn archwilio Casnewydd o amgylch y Bont, gan ddatgelu hanesion rhyfeddol 13 o bobl allweddol a digwyddiadau diddorol...
Gan ddilyn ôl troed canrif o forwyr di-ri, byddwn yn cychwyn ar ein taith ddarganfod ger y Ganolfan Ymwelwyr newydd sbon Pont Gludo Casnewydd, lle cewch gipolwg arbennig, cyn mentro ar y daith gylchol 5 milltir hon yn ymweld â chwe lleoliad.
Mwy Hanes Digwyddiadau
Tredegar House, Pencarn Way, Newport, NP10 8YW
Dydd Iau 4th Rhagfyr 16:00 -
Dydd Llun 8th Rhagfyr 14:45
Newport Transporter Bridge Visitor Centre , Usk Way, Newport, NP20 2JG
Dydd Iau 18th Rhagfyr 10:00 - 15:00