
22-23 High Street, Newport, NP20 1FX
Dydd Sadwrn 11th Hydref 9:00 - 17:00
Gwybodaeth Gŵyl Fwyd Casnewydd - Stryd Fawr
Bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd yn dychwelyd i ganol y ddinas eleni ar ddydd Sadwrn
11 Hydref 2025. Bydd y farchnad fwyd boblogaidd, arddangosiadau coginio, gweithdai
ac adloniant yn digwydd fel arfer ar y dydd Sadwrn.
Mynediad am ddim, does dim angen cadw lle.
Ein cogyddion:
10am: Rownd Derfynol Teenchef, Academi Ieuenctid Casnewydd
11am: Hywel Jones, Gwesty a Sba Lucknam Park
12am: Matt Tebbutt, cogydd enwog
1pm: Adam Whittle, Celtic Manor
2pm: Carl Cleghorn, bwyty TYME
3pm: Cyrus Todiwala, cogydd enwog
Gweithgareddau, gweithdai ac adloniant
Nid yw gŵyl fwyd yn gyflawn heb weithgareddau, gweithdai ac adloniant. Bydd digon yn digwydd trwy gydol y dydd i'r teulu cyfan.
Gwesty Mercure
9am: Diwrnod Coffi Cymunedol Galw Heibio
Dan ofal tîm Cymunedau Casnewydd Sy'n Dda i Bobl Hŷn y Cyngor, gyda sgyrsiau a gweithgareddau am ddim gan gynnwys:
Sgwrs ar Fwyd drwy'r Oesoedd, wedi'i chyflwyno gan Past Port Tours.
Profiad Atgofion am Fwyd – Archwilio sut mae cof, hunaniaeth ac emosiwn yn gysylltiedig â bwyd.
Cyfnewid ryseitiau byd-eang - Rhannu ryseitiau o'ch diwylliant chi a dod i wybod am rai newydd.
Bydd cacennau, coffi a the ar gael am ddim.
Cook Stars
Gweithdai coginio am ddim i blant a phobl ifanc 2 – 17 oed.
10am - 10.45am
11am - 11.45am
12 hanner dydd - 12.45pm
1pm - 1.45pm
Mae pob lle wedi mynd erbyn hyn, ond ewch i wefan Cook Stars i gael eich rhoi ar y rhestr aros.
Marchnad Casnewydd
10am - 4pm: Celf a chrefft am ddim gan wasanaeth ieuenctid a chwarae Cyngor Dinas Casnewydd.
The Place
11am - 4pm: Clwb Coginio ar y Cyd (am ddim).
11am - 4pm: Gweithdai, gan gynnwys chwarae â chlai bwyd, gemwaith pasta ac addurno bisgedi (am ddim).
Glan yr Afon
11am - 4pm: Sesiynau crefft (am ddim)
Ffilmiau’n cynnwys themâu bwyd (defnyddiwch y dolenni i archebu):
10.30am: Cloudy with A Chance of Meatballs (U) (1a30m) (£2.50 y tocyn)
1.30pm: Willy Wonka & the Chocolate Factory (U) (1a40m) (£2.50 y tocyn)
Digwyddiadau ymylol
9.30am – 5pm: Arddangosfa 'Celfyddyd Bwyd', Oriel 57 (Upper Dock Street) (am ddim).
10am – 5pm: Marchnad grefftau, Canolfan Kingsway.
10am – 4pm: Marchnad dros dro Fyw a Lleol gyda stondinau a cherddoriaeth fyw Arcêd y Farchnad.
10am – 4pm: Marchnad annibynnol a cherddoriaeth fyw, Arcêd Casnewydd.
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf ewch i newportfoodfestival.co.uk a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - Facebook @NewportFoodFestival / Instagram @FoodFestivalNewport / TikTok @NewportFoodFestival.
Gwefan https://www.newport.gov.uk/newportFoodFestival/en/Newport-Food-Festival.aspx
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Am ddim Digwyddiadau
Am ddim
Central Library, 4 John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Iau 18th Medi 11:00 - 11:45
Am ddim
The Place, 9-10 Bridge Street, Newport, NP20 4AL
Dydd Iau 18th Medi 17:00 - 20:00