Am ddim

Gŵyl Fwyd Casnewydd 2024

1/3

22-23 High Street, Newport, Newport, NP20 1FX

Gwybodaeth Gŵyl Fwyd Casnewydd 2024

Bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd yn dychwelyd i'r ddinas ym mis Hydref.

Ddydd Sadwrn 12 Hydref bydd y ddinas yn fwrlwm gyda'r farchnad fwyd draddodiadol, a bydd Marchnad Casnewydd yn cynnal yr arddangosiadau coginio a fydd yn cynnwys rownd derfynol y gystadleuaeth Teen Chef a gynhelir gan Academi Ieuenctid Casnewydd.

Bydd ein sgyrsiau poblogaidd a'n sesiynau blasu yn ôl eleni, a bydd gweithdai celf a chrefft hefyd i blant a theuluoedd eu mwynhau drwy gydol y dydd.

Bydd stondinau cerddoriaeth a bwyd stryd ar y Stryd Fawr ar y dydd Sul 13 Hydref ac, yn newydd ar gyfer eleni, bydd y Corn Exchange sydd newydd agor yn cynnal disgo plant am ddim.

Bydd digon yn mynd ’mlaen i ddiddanu'r teulu cyfan a bwyd a diodydd blasus i dynnu dŵr o’r dannedd!

Cadwch lygad am ragor o wybodaeth.


Gwefan https://www.newport.gov.uk/newportFoodFestival/en/Newport-Food-Festival.aspx

Lleoliad y digwyddiad