Cymunedol

Boreau Clonc yng Ngwlyptiroedd Casnewydd RSPB

RSPB Newport Wetlands, West Nash Road, Newport, Newport, NP18 2BZ

Gwybodaeth Boreau Clonc yng Ngwlyptiroedd Casnewydd RSPB

Dewch draw i'n Boreau Clonc newydd yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Dewch ar eich pen eich hun neu gyda theulu a ffrindiau a mwynhewch olygfeydd gwych wrth sgwrsio am y pethau rydych chi'n hoffi sôn amdanyn nhw. Cewch gwrdd â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg a chariad at natur dros baned o goffi a chacen cartref gyda'n cynnig boreau clonc, diod boeth a dewis o ddantaith felys am £5. Does dim angen cadw lle, ymunwch â ni tua 11am yn y caffi! O bryd i'w gilydd, bydd gennym siaradwyr a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y warchodfa a'r gwaith y mae'r RSPB yn ei wneud!

Telerau ac Amodau - Dim ond rhwng 11am a 12.30pm ar ddydd Mawrth dethol ym mis Mawrth y mae’r cynnig hwn yn ddilys. Gall fod yn unrhyw ddiod boeth a dantaith felys sydd ar gynnig y diwrnod hwnnw. Gofynnwch i'r tîm arlwyo ar y diwrnod am fwy o wybodaeth am unrhyw alergeddau. Codir tâl o hyd ar bobl nad ydynt yn aelodau o'r RSPB am barcio yn y maes parcio.

Gwefan https://events.rspb.org.uk/newportwetlands

Lleoliad y digwyddiad