
Tredegar House, Pencarn Way, Newport, NP10 8YW
Gwybodaeth Nadolig yn Nhŷ Tredegar
Nadolig yn Nhŷ Tredegar
O oleuadau yn twincian a dros 80 o goed addurnedig i archwilio traddodiadau’r teulu Morgan, mae rhywbeth hudolus i bawb. Darganfyddwch sut y dathlwyd y Nadolig, o wleddoedd Tuduraidd i ddathliadau Fictoraidd ac i'r 1980au.
Tŷ a Gerddi'r Ŵyl
6-9 Rhagfyr, 11:30am-3:30pm
Ymhyfrydwch mewn sbec cynnar ar y Nadolig yn y plasty, lapiwch yn gynnes i fydn am dro drwy'r gerddi rhewllyd, a mwynhewch y mins peis yn y Brewhouse wedyn.
Agor Gyda’r Hwyr
13-23 Rhagfyr, 12pm-8pm
Sawrwch baned o siocled poeth gyda cherddoriaeth dymhorol, porwch am anrhegion munud olaf yn y siop lyfrau, ac amsugno'r awyrgylch Nadoligaidd yn ystod ein hagoriadau gyda’r hwyr.
Penwythnosau Nadoligaidd i'r Teulu
14-15 a 21-22 Rhagfyr, 12-8pm
Ymunwch â ni am ddau benwythnos yn llawn danteithion y Nadolig a cherddoriaeth fyw. Chwiliwch am Siôn Corn Nadolig yn crwydro'r tiroedd wrth iddo wirio ei restr a chadwch olwg am Ebenezer Scrooge yn y plasty.
Cynlluniwch eich ymweliad: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/tredegar-house
Gwefan https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/tredegar-house
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Hanes Digwyddiadau
Newport Museum & Art Gallery, Newport, NP20 1PA
Dydd Iau 20th Mawrth 14:00 - 15:30