Theatr Glan yr Afon, Kingsway, Newport, NP20 1HG
Gwybodaeth Mwy na Dreigiau a Daffs'
Gan ddychwelyd am ail flwyddyn, bydd ‘Mwy na Dreigiau a Daffs' yn ddathliad o Gymru, diwylliant Cymru, a bod yn Gymro yng Nghasnewydd, ac yn dangos bod Cymru'n fwy na chennin Pedr a dreigiau.
Bydd y digwyddiad am ddim, rhwng 2 ac 8pm ddydd Sul 1 Mawrth yn cychwyn gyda pharêd bach y tu allan i Glan yr Afon a'r cerflun Wave.
Ar ôl y parêd, bydd y prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal yng Nglan yr Afon, gydag amrywiaeth o berfformiadau cerddorol a gweithdai, gan gynnwys:
• perfformiadau cerddorol gan Ify Iwobi, Wade Collymore, Dabs, Ragsy, Kat Rees, Operasonic, Cerys Rees, a mwy
• gweithdai crefft i'r teulu gan Lucilla Jones, ac ardal celf a chrefft i'r teulu
• gweithdai cerddorol gan Wasanaeth Cerdd Gwent, Operasonic a’r Grŵp Cymuned Geltaidd
• adrodd straeon, symudiadau Bollywood, sesiynau cyfansoddi caneuon a pherfformiadau gan Amruta a chôr cymunedol Ayan
Fel rhan o'r digwyddiad eleni, mae disgyblion ysgolion Casnewydd wedi eu gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth greadigol ar y thema 'Casnewydd trwy fy llygaid i'.
Gall ceisiadau i'r gystadleuaeth fod ar ffurf barddoniaeth neu gelf, a bydd y ceisiadau gorau o dri chategori grŵp oedran yn cael eu harddangos yn y digwyddiad.
Mae'r digwyddiad wedi ei gefnogi gan gyllid llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cymorth Peilot Dydd Gŵyl Dewi 2026.
Gwefan https://www.facebook.com/events/1407228344220276/
Lleoliad y digwyddiad
Mwy Teulu Digwyddiadau
, Caerleon Roman Fortress Baths, High Street, Caerleon, Newport, NP18 1AE
Dydd Sadwrn 23rd Mai 11:08 -
Dydd Sul 31st Mai 11:08
Teulu
Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Mercher 27th Mai 11:00 - 15:00