Newport Transporter Bridge, East Anchorage Garden, Newport Transporter Bridge, Newport, Newport, Gwent, NP19 0RB
Gwybodaeth Moths and Munchies
Rhywbeth ychydig yn wahanol ar gyfer gwyliau'r haf!
Ymunwch â Thîm Pont Gludo Casnewydd a’r 'Mothman', Kevin Hewitt, wrth i ni ddarganfod pa rywogaethau sydd wedi ymgartrefu yng Ngardd Angorfa Ddwyreiniol ein pont fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gwyfyn...
Ar ôl cyrraedd, bydd Kevin yn datgelu cynnwys ein 'trapiau' gwyfynod a adawyd allan y noson gynt - gan ein helpu i adnabod y gwahanol rywogaethau a darganfod eu cynefinoedd a'u harferion.
Bydd gweithgareddau gwyfynaidd amrywiol a, gan ei fod yn ddigwyddiad cynnar, bydd lluniaeth ar gael.
Sylwch fod y digwyddiad hwn yn ddibynnol ar y tywydd (yn enwedig y noson gynt - mae gwyfynod yn eithaf ffyslyd!) a does gennym ni ddim ffordd o wybod faint fyddwn ni’n eu dal!
Dim ond hyn a hyn o le sydd, felly archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda!
Er bod y digwyddiad hwn am ddim, mae costau ynghlwm, yn enwedig o ran amser gwirfoddolwyr - felly rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch ddod.
Gwefan https://www.eventbrite.co.uk/e/moths-and-munchies-tickets-942185782037