Am ddim

Rhwydwaith cerdded Momentwm

Dydd Llun 31st Mawrth 10:00 - Dydd Llun 28th Ebrill 10:00
Dydd Llun 7th Ebrill 10:00 - Dydd Llun 5th Mai 10:00
Dydd Llun 14th Ebrill 10:00 - Dydd Llun 12th Mai 10:00
Dydd Llun 21st Ebrill 10:00 - Dydd Llun 19th Mai 10:00
Dydd Llun 28th Ebrill 10:00 - Dydd Llun 26th Mai 10:00
Dydd Llun 5th Mai 10:00 - Dydd Llun 2nd Mehefin 10:00

Gwybodaeth Rhwydwaith cerdded Momentwm


Mae Momentwm yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Casnewydd Fyw i helpu i annog preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr yng Nghasnewydd a'r cyffiniau i newid y ffordd maen nhw'n meddwl am deithio yn y ddinas a’r dulliau teithio maen nhw’n eu dewis. Nod y prosiect yw cefnogi pobl i deithio'n fwy llesol a dewis dulliau teithio sy'n well iddynt yn gorfforol, yn emosiynol ac yn ariannol.

Mae’r prosiect yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau cerdded a beicio gan gynnwys Sgiliau Beicio i Oedolion, gweithdai Trwsio Eich Beic, teithiau cerdded o’r Soffa i 5k, grwpiau beicio o’r Soffa i 50k a llawer mwy. Bydd Momentwm hefyd yn lansio'r rhwydwaith cerdded ym mis Mawrth fel rhan o hyn ac mae'r sesiynau'n barod yn cael eu harchebu'n gyflym.

Emily Wood yw'r arweinydd teithiau cerdded dynodedig ar gyfer y teithiau cerdded hyn ac mae'n llawn cyffro wrth feddwl am ddechrau. "Rydym wedi dylunio'r teithiau cerdded hyn i alluogi pobl i wneud ffrindiau newydd, teimlo'n well ynddynt eu hunain a mwynhau eu hardaloedd lleol," meddai Emily sy'n frodor o Gasnewydd ei hun ac yn weithiwr ffitrwydd proffesiynol gweithredol yn ogystal â cherddwr brwd. "Rydyn ni yma i hyrwyddo ffordd actif o fyw yn ogystal â theithio llesol," ychwanegodd Emily, gan egluro bod pob taith gerdded yn cymryd rhwng 20 a 40 munud, a'i bod yn hollol rad ac am ddim.

Mae'r amserlen gerdded bresennol fel a ganlyn:

O ddydd Llun 3 Mawrth 2025
Dydd Llun - 11am - Parc Beechwood
Cyfarfod yng nghaffi Parc Beechwood, yn y parc
Dydd Mercher - 10am - Glebelands
Cwrdd yng nghaffi Canolfan Bowlio Dan Do Casnewydd
Dydd Mercher - 1pm - Amffitheatr Caerllion
Cwrdd yn y prif faes parcio
Dydd Iau - 10am - Parc Beechwood
Cwrdd yng nghaffi Parc Beechwood

Gallwch gadw eich lle trwy'r ap neu ein gwefan.

Gwefan https://www.newportlive.co.uk/en/sports-wellbeing/momentwm/walking-network/

Archebu digwyddiad

Mwy Am ddim Digwyddiadau

ClwbStori

Am ddim

Bettws Library, 41 Bettws Shopping Centre, Newport, NP20 7TN

Dydd Llun 7th Ebrill 14:00 - 14:45

ClwbStori

Am ddim

Rogerstone Library, Tregwilym Road, Newport, NP10 9EL

Dydd Mawrth 8th Ebrill 14:00 - 14:45