Newport Museum and Art Gallery, John Frost Square, Newport, NP20 1PA
Dydd Iau 7th Awst 9:30 - 16:15
Gwybodaeth Sioeau Planetariwm Symudol
Sioeau Planetariwm Symudol Am Ddim
Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol yr haf hwn? Ymunwch â ni yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd am sioe planetariwm symudol 360° am ddim. Teithiwch yn ôl mewn amser i hedfan gyda deinosoriaid, gweld ffenomenau ar y Ddaear sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd, chwilio am fywyd yng nghysawd yr haul a thu hwnt neu fwynhau taith dywys drwy awyr y nos gyda seryddwr.
Mae nifer y lleoedd wedi'u cyfyngu i 10 o bobl fesul sioe ac mae cadw lle ymlaen llaw drwy Eventbrite yn hanfodol. Cynigir pedair sioe bob yn ail. Darllenwch y wybodaeth ar Eventbrite yn ofalus a dewiswch y tocyn priodol ar gyfer eich sioe a'ch amser dewisol.
Mae’r sioeau’n addas i deuluoedd a nodir argymhellion oedran lle bo hynny'n berthnasol. Byddwch yn ymwybodol y bydd ymwelwyr yn eistedd ar y llawr o dan gromen y planetariwm yn ystod y profiad hwn.
Mae'r cynnig anhygoel hwn yn cael ei hwyluso gan Immersive Experiences ac mae'n bosibl diolch i grant Cronfa Ffyniant Gyffredin, wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU a’i weinyddu gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Gwefan https://www.newport.gov.uk/heritage/en/Museum-Art-Gallery/Museum-Art-Gallery.aspx
Mwy Teulu Digwyddiadau
Dydd Sadwrn 19th Gorffennaf 9:00 -
Dydd Sul 31st Awst 9:00
Dydd Sadwrn 19th Gorffennaf 9:00 -
Dydd Sul 31st Awst 9:00